Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2020 – Iain Roberts, Pennaeth Rhaglenni
I ddathlu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, mae Iain Roberts, Pennaeth Rhaglenni Gwelliant Cymru, yn rhannu ei ystyriaethau personol am ddiogelwch cleifion.
I unrhyw riant sy’n darllen hwn, mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol o ‘Operation Ouch’ ar CBeebies. Mae’n rhaglen feddygol i blant sy’n cael ei chyflwyno gan ddau feddyg, sef Dr Chris a Dr Xand van Tulleken. Maent hefyd yn cyflwyno llawer o raglenni meddygol fel ‘Trust me I am a Doctor’ ac yn cyfrannu at raglenni fel Horizon a Panorama.
Rwy’n ffan mawr ohonyn nhw. Ychydig flynyddoedd yn ôl, pan oedd fy merch yn llawer iau, aethon ni i Ŵyl Wyddoniaeth Cheltenham. Roeddent yn siarad mewn digwyddiad fel rhan o’r diwrnod. Ar ddiwedd y sesiwn, drwy gyd-ddigwyddiad, wrth inni adael y lleoliad, roedden nhw’n gadael hefyd. Roeddwn i’n meddwl, man a man i fi fod yn ddigywilydd a gofyn am lun. Ni allent fod wedi bod yn fwy dymunol a gwnaethon nhw dreulio llawer o amser yn siarad gyda fy merch.
Yn ddiweddar, maen nhw wedi bod yn gohebu ar Covid-19 ac wedi gwneud rhai rhaglenni dogfen hynod addysgiadol am y pandemig. Ar un rhaglen, aeth un o’r efeilliaid i ymweld â chartref gofal. Yn gwbl briodol, gwnaeth metron y cartref gofal iddo ddilyn yr holl reoliadau golchi dwylo a gwisgo a diosg PPE. Y rheswm y soniaf am hyn yw oherwydd bod personoliaeth deledu weladwy iawn, meddyg iechyd cyhoeddus, a oedd yn cael ei hyfforddi gan fetron ac a arsylwyd gan griw camera, wedi gwneud camgymeriad a bu rhaid iddo fe olchi ei ddwylo unwaith eto.
Ar Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, efallai y dylem oedi a meddwl am ystyr hyn. Bwriad pob clinigwr yw cynnal y safonau glendid uchaf er mwyn lleihau’r siawns o groes-heintio, ond mae mor hawdd i rywbeth fynd o’i le.
Mae cadw cleifion a staff yn ddiogel wedi cael mwy o bwyslais nag erioed o’r blaen oherwydd ein hymdrechion i leihau lledaeniad COVID-19.
Yn ddiweddar, fel rhan o’r ymateb i COVID-19, gwnaeth grŵp bach o fy nghydweithwyr a ffrindiau sefydlu a gweithredu’r ganolfan samplu’r boblogaeth yng Nghaerdydd. Gwnaethon ni dreulio amser hir yn trafod atal a rheoli heintiau, gwisgo a diosg PPE a gweithio mewn amgylchedd lle y rhoddir sylw i gleifion sydd â symptomau COVID-19. Fy ofn mwyaf oedd na fyddai fy nghydweithwyr yn ddiogel ac y byddent yn cael eu heintio.
Mae gwaith Gwelliant Cymru wedi oedi trwy gydol y pandemig. Mae peth o’n gwaith bellach yn ailddechrau ond bydd yn wahanol ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau penodol. Enghraifft yw ein bod yn gweithio gydag arbenigwyr pediatreg ar sgôr Blaenoriaethu Arsylwi Pediatreg (POPS), mae’n helpu i gyfathrebu pa mor sâl yw plant ac yn helpu rhai clinigwyr i wneud penderfyniadau.
Credwn y gall y sgiliau gwella a’r wybodaeth a gynigiwn i’r gwasanaeth gefnogi diogelwch cleifion. Cyn bo hir, byddwn yn cychwyn darn o waith i gefnogi’r gwasanaeth i helpu i leihau heintiau nosocomiaidd. Rydym yn cwmpasu’r darn hwn o waith gyda chydweithwyr arbenigol sy’n arbenigo mewn Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd a byddwn yn recriwtio rhai aelodau tîm ychwanegol yn fuan.
Mae diogelwch cleifion a staff mor bwysig. Yn aml, y cwestiwn yw ble i ddechrau? Dros y degawd diwethaf, gwelsom mai dull yr Ymgyrch Diogelwch 1000 o Fywydau yng Nghymru oedd canolbwyntio ar rai elfennau allweddol o ofal cleifion, a allai, pe bai’n cael ei reoli mewn modd amserol, chwarae rhan bwysig wrth wella canlyniadau. Yn yr ymateb i COVID-19, mae un o’r darnau pwysicaf o gyngor wedi ymwneud â chynyddu golchi dwylo. Roedd Ignaz Semmelweis, y meddyg o Hwngari, yn iawn a phe bai ei gyngor wedi cael sylw, gallai llawer o fywydau fod wedi cael eu hachub. Cydnabu Atul Gawande, y llawfeddyg Americanaidd, hefyd y gallwn gadw’r safonau glendid uchaf mewn theatrau, ac eto y tu allan i theatrau, gallwn anghofio golchi ein dwylo ar adegau tyngedfennol.
Rydym nawr yn dod yn ôl at Dr Xand van Tulleken a ddangosodd yn ddewr y gallai ef hyd yn oed wneud camgymeriad wrth wisgo a diosg PPE a golchi ei ddwylo dan bwysau’r camerâu a’r metron.
Yn ddiweddar clywais arbenigwr clinigol yn gofyn y cwestiwn, ‘sut allwn ni sicrhau bod ein cleifion yn cyrraedd yr ysbyty yn ddiogel?’ Y cam cyntaf yw helpu i gyflawni’r pethau hanfodol yn ddibynadwy.
Mae fy merch, sydd bellach yn 16, wedi gofyn imi ddweud ei bod yn ifanc iawn pan gyfarfu â’r efeilliaid van Tulleken. Ac er eu bod yn bobl hyfryd, nid yw hi bellach yn gwylio ‘Operation Ouch’. Rwy’n ei gwylio weithiau.