Gwella Gwasanaethau Mamolaeth yn ystod y Pandemig Byd-eang gan Elinore Macgillivray, Uwch-reolwr Gwelliant
Mae 2020 wedi bod yn gyfnod annisgwyl ac anodd i bawb, yn enwedig os ydych wedi bod yn feichiog neu wedi cael babi yn ystod y naw mis diwethaf. Ni allaf ddychmygu y byddai unrhyw un – o’r unigolyn sy’n feichiog, ei theulu, systemau cymorth neu’r rheiny sy’n gweithio yn y gwasanaethau mamolaeth – wedi rhagweld y byddai 2020 yn newid bron a bod popeth yr ydych yn ei brofi yn ystod eich beichiogrwydd, yr enedigaeth a dychwelyd adref gyda’r babi newydd.
Ers mis Mawrth 2020, mae’r pandemig COVID-19, wedi rhoi cymaint o faich ar y GIG yn gyfan gwbl gan greu sefyllfa lle mae gwasanaethau mamolaeth wedi bod o dan bwysau mawr i addasu, digideiddio ac arloesi ar gyflymder aruthrol. O ystyried bod amseru yn hollbwysig yn ystod gofal mamolaeth, mae darparwyr wedi wynebu her unigryw o ddarparu gwasanaeth lle nad yw’n opsiwn i ohirio neu ganslo’r gofal. Rydym wedi gweld pa mor eithriadol o galed y mae ein cydweithwyr mamolaeth ymroddedig wedi bod yn gweithio yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod y gofal, nid yn unig yn parhau i fod yn ddiogel ond hefyd bod y profiad yn parhau i fod yn un cadarnhaol. Bydd unrhyw un sy’n dilyn fforymau defnyddwyr gofal mamolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol wedi gweld bod menywod wedi bod yn hynod gadarnhaol wrth drafod eu profiadau yn rhoi genedigaeth yng Nghymru yn ystod y pandemig.
Yng nghanol yr holl newidiadau hyn, gwnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gyhoeddi’r Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth – Cam Un y bu mawr ddisgwyl amdano. Pan ryddhawyd yr Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd ym mis Ionawr 2019, gofynnwyd i’r gwasanaeth mamolaeth yn ei gyfanrwydd yng Nghymru i ystyried safon, diogelwch a phrofiad y gwasanaeth ac yn fwy diweddar, ystyried a chynllunio sut y gallai fodloni’r disgwyliadau a nodwyd yng Ngweledigaeth Pum Mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth (2019-2024). Yr hyn na allent ei ragweld ar yr adeg honno oedd y byddai pandemig byd-eang yn cael cymaint o effaith sylweddol ar y system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd a fyddai’n gwneud y gwaith o gyflawni’r argymhellion yn heriol iawn. Er hyn, diolch i ymroddiad ein timau mamolaeth, mae gwelliannau wedi bod yn parhau o hyd, er bod hynny mewn ffordd wahanol. Er bod yr ymateb i’r pandemig wedi bod yn her fawr, mae hefyd wedi dangos bod newid yn bosibl, yn gallu digwydd yn gyflym a’i fod o fewn gallu pawb.
Yn anffodus, nid yw pawb wedi cael profiad cadarnhaol, ond bydd sawl gwers i’w dysgu o’r ymateb i COVID-19 heb os nac oni bai. Pan fyddwn yn symud allan o’r pandemig, bydd angen i ni neilltuo amser i fyfyrio ar y newidiadau ac ystyried sut y gallwn anghofio am y cyfyngiadau digroeso a chydnabod ac ymgorffori’r arferion cadarnhaol ac arloesol. Bydd gweithio mewn partneriaeth â menywod a’u teuluoedd yn rhan hollbwysig o hyn, er mwyn ystyried sut y bydden nhw am weld gwasanaethau mamolaeth yn cael eu darparu yn y byd ‘normal newydd.’ Mae adroddiad yr AGIC yn amlygu sawl maes o arfer da yn ogystal â chydnabod gwaith caled y staff, ond mae hefyd yn argymell nifer o feysydd i’w gwella. Mae Gwelliant Cymru yn gobeithio y bydd tymor y gwanwyn yn rhoi’r cyfle i gefnogi’n cydweithwyr o fewn gwasanaethau mamolaeth a defnyddio methodolegau gwelliant i roi’r argymhellion hynny ar waith. Trwy ddarparu cefnogaeth gwelliant a hyfforddiant i’r staff ar y rheng flaen, gallwn weithio tuag at y weledigaeth o ddarparu profiad diogel o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd Gwelliant Cymru yn gweithio gyda Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru a’r byrddau iechyd i ddeall ac ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad. Os ydych angen unrhyw gymorth ynglŷn â’r ffordd mae methodolegau gwelliant yn gallu helpu a chynorthwyo gwasanaethau mamolaeth, cysylltwch ag Elinore.Macgillivray2@wales.nhs.uk