Cymorth gan Gyfoedion Cwtch Cartref Gofal – cefnogi rheolwyr cartrefi gofal ledled Cymru

Rhaglen gwelliant genedlaethol i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ledled Cymru yw Cartref Gofal Cymru. Rydym yn gweithio gyda chartrefi gofal sy’n frwd dros wella ansawdd bywydau a gofal eu preswylwyr.  Gyda chychwyn y pandemig, mae ein gwaith yn y rhaglen wedi canolbwyntio ar sut allwn weithio gyda’r sector i geisio addasu i fynd i’r afael â COVID-19.

Dechreuodd ein taith yn 2019 pan wnaethom weithio gyda’r sector i ddangos sut y gall ‘gwyddoniaeth wella’ chwarae rôl bwysig wrth gefnogi cartrefi gofal. Gan weithio gyda nifer bach o gartrefi ledled Cymru, roeddem am weld sut allai egwyddorion gwella ansawdd weithio mewn lleoliad cartref gofal.  Rydym yn gwybod bod eu staff yn gwneud gwelliannau i’r ffordd maent yn gwneud eu gwaith bob dydd – i’w cydweithwyr a’r preswylwyr maent yn gofalu amdanynt. Fodd bynnag, nid oedd gan y mwyafrif y profiad o gofnodi’r newidiadau roeddent wedi’u gwneud a’r gwahaniaeth yr oedd hynny wedi’i wneud. Dyma lle mae gwyddoniaeth wella’n chwarae rhan. Mae arbrofi gyda newidiadau sy’n dechrau’n fach a phrofi ffyrdd newydd o weithio, gan gofnodi’r hyn sydd wedi digwydd (er gwell neu er gwaeth) a naill ai mabwysiadau’r newidiadau hynny neu addasu’r newidiadau hynny wedi bod yn ddull sydd wedi gweithio’n dda. Drwy greu awyrgylch lle nad ystyrir unrhyw ddysgu fel methiant, mae’n werthfawr wrth ddangos yr hyn sy’n gallu (ac sydd yn) mynd o’i le.

Yn ystod camau cynnar ein rhaglen, gwnaethom ganolbwyntio ar feithrin gallu a chapasiti drwy’r fethodoleg gwella ansawdd a hyfforddiant a mentora parhaus.  Ein nod oedd meithrin staff gofal i ‘feddwl yn wahanol’ fel eu bod yn edrych ar eu diwrnod gwaith drwy lens gwella. Mae sawl astudiaeth wedi dangos, yn y pen draw, y bydd hyn yn golygu nid yn unig gwelliant yn ansawdd gofal, ond mwy o ymgysylltiad a boddhad gan staff. Am y rheswm hwn, mae ymgysylltu â staff cartrefi gofal er mwyn gwella gofal yn ystod cyfnod digynsail a phwysau ar y gwasanaeth yn fater o’r flaenoriaeth uchaf. Mae COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar y grŵp poblogaeth hwn ac mae wedi cyflwyno sawl her, nid yn unig i staff cartrefi gofal ond i breswylwyr a theuluoedd.

Mae Rosalyn Davies, Arweinydd y Rhaglen, yn croesawu rheolwyr cartrefi gofal bob pythefnos a dyma’r amcanion allweddol:

rhannu datrysiadau ymarferol beunyddiol

datrys problemau i gefnogi gwelliannau ac arloesedd

cefnogi a chynnig goruchwyliaeth gan gyfoedion i staff yn y sector

cefnogi gofal a chanlyniadau gwell i breswylwyr agored i niwed, gan gynnwys y rheiny sy’n dioddef o ddementia

Yn y sesiwn gyntaf, gwnaethom ofyn i reolwyr cartrefi gofal ddisgrifio eu hwythnos waith er mwyn rhoi dealltwriaeth well i ni gyd o’r cymhlethdodau roeddent yn eu hwynebu. Bydd canlyniad hyn yn aros gyda ni am amser hir i ddod. Dyma’r teimladau cyffredin yr adroddwyd amdanynt: ‘rhwystredig’, ‘ofnus’, ‘ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd’ ac ‘ofnadwy’. Arweinir Cwtch Cartrefi Gofal gan reolwyr cartrefi gofal ac mae’n lle diogel iddynt feithrin cydberthnasau gyda’i gilydd a meithrin gwydnwch i’r tîm cyfan.  Rydym wedi cael adborth gan reolwyr cartrefi gofal sydd wedi mynychu ‘Cwtch’ ac maent wedi dweud bod y sesiynau’n ‘gefnogol oherwydd eu bod yn fy nghaniatáu i drafod materion cyffredin gyda’m cyfoedion’.

Mae sicrhau bod gan reolwyr cartrefi gofal iechyd a llesiant da yn hanfodol fel y gallant ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth ac mae ‘Cwtch’ hefyd yn cefnogi hyn.

Hyd yn hyn, mae’r rhan fwyaf o weithgareddau wedi cael eu darparu i gefnogi’r rheolwyr mewn cartrefi gofal.  Gan fyfyrio ar y gweithgareddau hyn, rydym yn cydnabod bod angen eu datblygu er lles yr holl staff mewn cartrefi gofal. Rydym hefyd wedi bod yn datblygu ap ar gyfer ffonau symudol sy’n blatfform hygyrch diweddaredig ar gyfer amrywiaeth eang o adnoddau. Rydym yn gobeithio rhannu rhagor o newyddion ar ei ddatblygiad, gyda dyddiad lansio’n dod yn fuan.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, e-bostiwch rosalyn.davies2@wales.nhs.uk