Cynllunio a chynnal cynhadledd Gofal Dementia Rhyngwladol gyntaf Cymru – yn ystod pandemig… gan Michaela Morris, Rheolwr Gwella Gwasanaethau, y Rhaglen Iechyd Meddwl
Cynhaliwyd cynhadledd Gofal Dementia Rhyngwladol gyntaf Cymru ar 2-3 Chwefror 2021, sef digwyddiad rhithwir ar raddfa fawr gyntaf Gwelliant Cymru, ein partneriaeth gyntaf â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Gallai hwn fod yn flog am wneud llawer o bethau am y tro cyntaf! Efallai mai dyma’r tro cyntaf i ni gynnal cynhadledd ryngwladol o’r maint hwn, ond os rhywbeth, mae ein profiad yn brofiad o barhad. Ymgysylltiad parhaus y bobl sy’n gyrru’r agenda dementia ymlaen, yr angerdd parhaus am wasanaethau gwell nag o’r blaen, y cymorth a’r gefnogaeth barhaus i’n gilydd ac i ni fel tîm gofal dementia, yr hiwmor parhaus, cryfder, gwytnwch, colled, ymrwymiad, poen, galar a charedigrwydd. Rydyn ni’n gweld ac yn teimlo hyn bob dydd yn ein gwaith wrth hyrwyddo gofal dementia ledled Cymru ac rydyn ni wedi’i weld yn amlwg yn ystod y pandemig.
Mae rhwydwaith bach o bobl a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru ac fe gawson ni (Gwelliant Cymru a Chyfadran yr Henoed yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru) y syniad o weithio ar gynhadledd gyda’n gilydd – i ddod â phobl ynghyd i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Fe wnaethon ni aros, gwrando ar ein partneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac yn anad dim ar y bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr ac wedyn, arhoson ni ychydig yn hirach. Pryd oedd yr amser iawn i siaradwyr ac ymarferwyr ymgysylltu â ni? Roedd nifer yn brysur iawn yn gwneud ymarfer clinigol – pryd mae’r amser iawn i bobl â dementia a gofalwyr gymryd rhan mewn agenda dementia ehangach eto? Doedden ni ddim eisiau cynnal cynhadledd a fyddai’n canolbwyntio ar COVID-19 yn unig. Roedden ni eisiau agenda gymysg gytbwys ac roedden ni’n teimlo bod angen i ni hyrwyddo gofal dementia, i godi’r momentwm ac edrych ymlaen at “better than, not same as” – sef dyfyniad hyfryd gan ein ffrind Nigel Hullah. O’r hyn a glywon ni wrth ymgysylltu â phobl ac ymarfer, Chwefror 2021 oedd yr amser iawn i ddod â phobl ynghyd. Dywedodd pobl wrthon ni eu bod nhw’n barod.
Roedd denu siaradwyr a chyflwyniadau poster yn araf ar y dechrau – gwnaethon ni anghofio am y Nadolig ac fe gawson ni ein heffeithio gan bwysau COVID-19 drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr. Er gwaethaf hyn, clywon ni fod pobl eisiau ymgysylltu a thrwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ein cysylltiadau a pherthnasoedd oedd eisoes yn bodoli yn helaeth, daethon ni o hyd i restr anhygoel o siaradwyr a’r agenda gytbwys honno roedden ni eisiau ar y dechrau. Gadewch i ni wneud y cyfan, cyflawni’r hyn a allwn, mae hyn yn fy atgoffa o’n gwaith ar Siarter Ysbytai Cyfeillgar i Ddementia Cymru – agwedd gweld rhywbeth a’i ddatrys, agwedd a diwylliant cadarnhaol yw’r hyn rydyn ni’n anelu ato ar bob lefel ar draws pob lleoliad. Dyma sut rydyn ni’n gwella gofal. Roedd sesiynau’r siaradwyr yn amrywiol, gan adlewyrchu bywyd a phrofiadau pobl â dementia a’u gofalwyr. Clywon ni’r lleisiau dementia yn gryf ac yn glir ac fe glywon ni’r cyflwynwyr yn sôn am eu meysydd arbenigol, straeon a phynciau sy’n gwella ein dysgu, ein datblygiad a’r ffordd y byddwn ni’n darparu gofal.
Roedd gallu defnyddio’r swyddogaeth sgwrsio i ymgysylltu â’r siaradwyr, i ofyn cwestiynau iddyn nhw ac i roi barn yn rhoi mewnwelediad o’r cynnwys amrywiol. Bydd y siaradwyr yn cael copi o hwn i’w adolygu fel y gall y trafodaethau barhau wedi’r gynhadledd. Darparodd ein siaradwyr yn y cyfarfod llawn fanylion arbenigol ynghylch deliriwm, alcohol a dementia a’r gwelliannau a gafwyd o wrando a chreu straeon.
Dechreuodd yr ystafelloedd trafod gyda phroblemau technegol, ond diolch byth, roedd y cynrychiolwyr yn amyneddgar ac yn garedig ac roedd popeth yn gweithio’n iawn ymhen dim. Roedd pob ystafell yn canolbwyntio ar bynciau penodol yn ymwneud â dementia; technoleg, cynllunio gofal, cerddoriaeth, safonau, canlyniadau, prosiectau gofalwyr, effeithiau COVID-19, asesu cof, triniaeth gartref, darllen, tecstilau, asesu a llawer mwy. Pob maes i’w wella.
Roedd y gynhadledd wedi darparu cyfleoedd ymgysylltu na fyddai erioed wedi digwydd fel arall, o bosib – ar bapur, roedd y pynciau’n hollol wahanol, ond fe wnaeth y siaradwyr ymgysylltu â’i gilydd a chanfod sut y gallai un pwnc ddylanwadu ar ganlyniadau’r llall. Am ddigwyddiad prin i’r gynulleidfa fod yn rhan ohono.
Ymunodd y siaradwyr â ni o Gymru, Lloegr, yr Alban, Awstralia, America, India a’r Swistir, a bu nifer o’r gwledydd yn ymwneud â llawer o’r pynciau ymchwil. Clywon ni gyflwyniadau gan academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr, gwellhawyr, addysgwyr, y celfyddydau creadigol, y celfyddydau perfformio, pobl â phrofiad, gofalwyr a’r trydydd sector ac roedd ein cynrychiolwyr o bob cyfandir a chefndir; pobl â phrofiad byw, clinigwyr, llunwyr polisïau a dylunwyr ffasiwn.
Creodd y sesiynau panel gynnwrf cyn i’r gynhadledd gychwyn oherwydd y sylw roedden nhw’n ei roi i’r agenda dementia. Yn gyntaf, clywon ni’r lleisiau dementia a’u profiadau yn ystod COVID-19. Yn ail, clywon ni am yr heriau, y cryfderau a realiti profiadau pobl BAME ac arbenigwyr dementia. Ac yn drydydd, trodd sylw ein panel at drafodaeth a oedd yn ysgogi rhywun i feddwl ynghylch a yw ymchwil dementia wedi bod yn wastraff arian. Roedd pob un o’r arbenigwyr wedi rhannu eu barn a’u gwybodaeth arbenigol – roedden ni’n ffodus iawn i gael yr ymrwymiad a’r brwdfrydedd hwnnw gan bob aelod o’r panel a’r cadeirydd.
Bu’r gynhadledd ei hun yn ffordd o wireddu ein gweledigaeth, sef bod pobl yn teimlo eu bod nhw mewn cysylltiad â phobl eraill. Roedden ni am geisio ail-greu’r teimlad pan fyddwn yn cwrdd â’n gilydd, yn sgwrsio yng nghyntedd lleoliad, yn cael coffi a Danish pastry cyn i ni i gyd gymryd ein seddi. Cymru, gwlad y gân, gyda’i golygfeydd prydferth iawn; dewis amlwg i ddangos lluniau o leoliadau rhyfeddol ledled Cymru rydyn ni i gyd yn awyddus i ymweld â nhw a chwarae ychydig o ganeuon o Gymru – fe wnaeth hwnna godo calonnau pawb (pwy sydd ddim yn dwlu ar wrando ar ychydig o Tom Jones neu ddim yn teimlo’n emosiynol wrth glywed Calon Lân).
Roedd defnyddio’r amser ar ddechrau a diwedd y gynhadledd i ymgysylltu â’n gilydd yn teimlo’n bwysig – roedd dros 400 o bobl wedi ymuno â ni, felly roedd yn wych gallu cysylltu pobl â’i gilydd. Roedd hi’n hyfryd gweld pobl yn chwifio dwylo ar ei gilydd, yn gweld y llawenydd ar eu hwynebau oherwydd bod rhywun ar y sgrin nad oeddent wedi’i weld ers dros 10 mis, a gwylio pobl yn symud eu pennau ac yn canu gyda’r gerddoriaeth. Mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol ac yn agoriad llygad.
Gan weithio ar y gynhadledd gyda’n partneriaid, mae Cyfadran yr Henoed yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn dweud wrthon ni fod angen i ni wneud mwy gyda’n gilydd. A dau aelod o’n tîm digwyddiadau gwych, ac fe roddon nhw gymaint o gyngor a chefnogaeth i ni – rhoddon ni gur pen parhaol iddyn nhw! Y gefnogaeth ryfeddol gan ein cydweithwyr yn Gwelliant Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Alzheimers Cymru, Diverse Cymru, ein tîm arweinyddiaeth John Boulton a Dominque Bird a’n Harweinydd Iechyd Meddwl Andrea Gray, Katherine Jenkins sy’n ein cefnogi gyda fideo agoriadol hyfryd sy’n dymuno’n dda inni a’n Gweinidog Iechyd Meddwl newydd yng Nghymru, Eluned Morgan, yn agor y gynhadledd yn tynnu sylw at yr ymrwymiad i hyrwyddo gofal dementia yng Nghymru – diolch i chi i gyd.
Roedd yn gynhadledd hyfryd a diolchaf i bob un a ymunodd â ni, a’n helpodd ni, a gyflwynodd eu gwaith i gynyddu ein gwybodaeth ac am ennyn ein diddordeb i ddysgu mwy. Bydd mwy i ddod o Gymru, gwlad y gân, calonnau mawr ac angerdd, dros hyrwyddo gofal dementia i fod yn well nag o’r blaen … gwyliwch y gofod hwn.
I gael mynediad at adnoddau ategol o’r gynhadledd yn ogystal â recordiadau, cliciwch yma.
I ddysgu mwy am ein gwaith, ymwelwch â’n gwefan.