Diweddariad ar Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru, gan Sarah Tilsed, Rheolwr Ymgyrchoedd a Phartneriaethau, Cynghrair Gweithredu ar Ddementia Cenedlaethol

Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru a rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.  Rwy’n falch o allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y siarter.

Nod y siarter yw galluogi byrddau iechyd i weithredu arferion sy’n deall dementia. 

Yn dilyn ein gwaith yn cyflwyno siarter gyda thasglu ysbytai yn Lloegr, daeth Gwelliant Cymru atom ynglŷn â’i gefnogi i greu siarter yng Nghymru.

Grŵp llywio

Gwnaethom sefydlu grŵp llywio a oedd yn cynnwys clinigwyr, pobl y mae dementia yn effeithio arnynt ac elusennau.  Gwnaethom gynnal cyfres o weithdai yn seiliedig ar bob un o egwyddorion SPACE, a gafodd eu creu gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.  Mae SPACE yn sefyll am Staffio, Partneriaeth, Asesiadau, Gofal a’r Amgylchedd.  Gwnaethom ychwanegu dwy egwyddor ychwanegol – Llywodraethu a Gwirfoddoli, er mwyn sicrhau bod pob elfen wedi’i chynnwys.

Gwahoddwyd yr holl randdeiliaid o wahanol sectorau i’r gweithdai i lunio’r siarter ar y cyd Defnyddiwyd allbynnau’r gweithdai hyn yn sail i ddangosyddion hunanasesu’r siarter i fyrddau iechyd asesu eu hunain yn eu herbyn.

Tasglu yn rhanbarth pob bwrdd iechyd

Bydd gan bob rhanbarth dasglu ac asesiad parodrwydd i’w gefnogi, a fydd yn helpu i sicrhau bod yr holl safonau llywodraethu cywir ar waith ac yn ymrwymo i ymuno â’r siarter. Mae’r siarter yn rhan o Lwybr Safonau Dementia Cymru sy’n cynnig fframwaith cyflawni sy’n cefnogi rhanbarthau byrddau iechyd i arwyddo, paratoi, cyflawni ac adolygu egwyddorion y siarter. Bydd y fframwaith cyflawni yn cynnwys arolygon ymgysylltu a phrofiad ar gyfer pobl y mae dementia yn effeithio arnynt ac ymarferwyr.

Care Fit for VIPS

Mae Gwelliant Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Caerwrangon a ddatblygodd Care Fit for VIPS, offeryn asesu i sicrhau bod gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar waith ar gyfer pobl â dementia. Mae’r offeryn asesu VIPS yn helpu staff a sefydliadau i fesur cynnydd ac yn sefyll am:

V = Yn gwerthfawrogi pobl
I = Anghenion yr unigolyn
P = Persbectif defnyddiwr y gwasanaeth
S = Seicoleg gymdeithasol gefnogol.

Er enghraifft, dangosyddion VIPS ysbyty yw “Mae staff yn gwybod hanes bywyd pob unigolyn ac yn ei ddefnyddio mewn modd cadarnhaol yn eu rhyngweithio bob dydd.” Rydym yn gweithio gyda chwmni gwe i ymgorffori elfennau o egwyddorion y siarter a chwestiynau hunanasesu ac, wrth ystyried hanes bywyd unigolyn, bydd eitem y siarter yn ffitio’n dwt o dan y dangosydd VIPS i gynnig ffocws. Rydym yn datblygu diagram afon wedi’i greu o’r cwestiynau hunanasesu, sy’n gynrychiolaeth weledol. Felly bydd sgôr Coch-Oren-Gwyrdd (RAG), a delwedd i ysbytai i’w cefnogi gyda gwelliant ac i greu cynllun twf yn unol â hynny.

Dyfodol y siarter

Wrth symud ymlaen, bydd rhanbarthau pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn ymuno â’r Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia, gan ddangos eu hymrwymiad i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Bydd ysbytai yn tynnu sylw at gynnydd fel rhan o’r llyfr gwaith hunanasesu a safonau dementia a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall lle y mae angen iddynt wella o hyd ac i arddangos yr hyn y maent wedi’i gyflawni.

Ychydig o eiriau gan y Grŵp Llywio ar yr hyn y mae’r Siarter yn ei olygu iddyn nhw 

Nigel Hullah, rhywun sy’n byw gyda dementia – Bydd y Siarter yn gwella profiad pobl y mae hyn yn effeithio arnyn nhw mewn lleoliadau gofal ysbyty. Mae’n brofiad sy’n cydnabod bod eu hunaniaeth, eu hamrywiaeth a’u dewisiadau yn cael eu llunio drwy gydnabod pwysigrwydd urddas, parch a charedigrwydd.

Ceri Higgins, Gofalwr di-dâl – Siarter sy’n cymryd ein gweledigaethau ac yn eu gwireddu.

Dr Katie Featherstone, Cymdeithaseg Feddygol, Prifysgol Caerdydd – mae’r siarter yn bwysig i ysgogi ansawdd a safonau yn ein hysbytai – i gynorthwyo a grymuso pobl sy’n byw gyda dementia a’r staff sy’n gofalu amdanyn nhw.

Suzanne Duval, Diverse Cymru – Rydym yn datblygu’r Siarter i sicrhau bod strwythurau, prosesau ac arferion yn deg ac yn gynhwysol ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig.  Bydd yn helpu i sicrhau bod cymunedau BAME yn derbyn gwasanaeth priodol sy’n gymwys yn ddiwylliannol.

Lisa Fabb – Gwella Cymru – Rwy’n credu y bydd y siarter yn arf gwych i rymuso staff i ddarparu gofal gwych i gleifion â dementia. Bydd hefyd yn rhoi pwyslais ar gyfer gwaith pobl ac yn darparu cynllun i weithio iddo.

Fel y gallwch ddychmygu, mae COVID-19 wedi golygu ein bod wedi gorfod addasu ein cyflymder wrth weithio’n gadarn gyda’r holl randdeiliaid ond rydym yn bwriadu cynnal lansiad ar gyfer Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru yn ddiweddarach yn 2021.

Mae’r gwaith yn parhau ac mae pob rhanbarth yng Nghymru y gysylltiedig â’r gwaith o ddatblygu’r adnoddau allweddol ac mae amserlen ar gyfer lansio’r siarter wrthi’n cael ei chynllunio yn ddiweddarach yn 2021. Pan gyhoeddir y siarter, bydd yn cael ei dosbarthu i’r holl fyrddau iechyd.  Bydd digwyddiad lansio hefyd ar gyfer y rhai a gefnogodd y gwaith hanfodol hwn, a oedd yn cynnwys pobl â dementia, gofalwyr, ymarferwyr, uwch arweinwyr ac academyddion.