Lleihau Arferion Cyfyngol yng Nghymru, Gan David O’Brien a Dr Ruth Wyn Williams, Uwch Reolwyr Gwella

Heddiw, rydym yn croesawu lansiad y Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Mae’r fframwaith hwn yn hyrwyddo mesurau ac arferion a fydd yn arwain at leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr hyn a olygwn wrth ‘arferion cyfyngol’

Mae Cyngor Gofal Cymru yn diffinio arferion cyfyngol fel ‘ystod eang o weithgareddau sy’n atal unigolion rhag gwneud pethau y maent am eu gwneud neu sy’n eu hannog i wneud pethau nad ydynt am eu gwneud’. Gallant fod yn amlwg iawn, fel ataliaeth gorfforol, neu’n gyffredinol iawn, fel cyfyngiadau hollgynhwysfawr sydd wedi’u hymgorffori. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio ataliaeth yn ‘weithred sy’n cael ei chyflawni â’r nod o atal symudedd a/neu ryddid unigolyn i weithredu’n annibynnol’.

Wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio ledled Cymru ac wrth i ni groesawu’r rhyddid sy’n dod i’r amlwg, mae’n debyg ein bod ni i gyd wedi myfyrio ar yr hyn rydyn ni’n ei werthfawrogi fwyaf, gyda’r gobaith y bydd cyfyngiadau ar ryw adeg yn dod i ben. I lawer o bobl ag anabledd dysgu, mae’r profiad yn wahanol. Roedd cyfyngiadau’n bodoli cyn dyfodiad COVID-19 a byddant yn parhau y tu hwnt i’r pandemig cyfredol.

Effaith arferion cyfyngol

Yng Nghymru, gwnaed cynnydd dros ddegawdau o drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol, i ddarparu cefnogaeth briodol i bobl ag anabledd dysgu yn eu cymunedau lleol – gan leihau darpariaeth sefydliadol arhosiad hir. Fodd bynnag, fel nyrsys a thrwy gydol ein bywydau gwaith ein hunain, mae arferion cyfyngol wedi bod yn agwedd gyson ar ofal a chefnogaeth i bobl ag anabledd dysgu. Fe’i defnyddir yn aml fel ffordd i gadw pobl yn ddiogel ac ysgafnhau’r baich i’r rhai sydd mewn trallod emosiynol sylweddol a hynny bron bob amser gyda’r bwriadau gorau gan bobl ymroddedig a thosturiol. Boed hynny mewn canolfan gadw gyfreithiol (Deddf Iechyd Meddwl), neu fesurau anffurfiol sy’n dibynnu ar bobl eraill i benderfynu pryd y gall person fynd allan o’r tŷ, dewis pryd y mae am fynd i’r gwely neu sut a phryd y mae’n treulio amser gyda ffrindiau a theulu.  Mae ein dealltwriaeth o effaith arferion cyfyngol yn tyfu’n barhaus wrth i ni geisio cofnodi profiadau byw.

Mae arferion cyfyngol yn bodoli ar sawl ffurf, ac rydym i gyd wedi profi rhai cyfyngiadau eleni wrth i gyfyngiadau symud gael eu rhoi ar waith i atal COVID-19 rhag lledaenu. Gall pob un ohonom, mewn rhyw ffordd, fyfyrio ar sut mae cyfyngiadau o’r fath wedi effeithio arnom. Er na allwn wneud gormod o gymariaethau, mae’n bosibl y gallwn ddeall yn well sut brofiad ydyw i rywun y mae cyfyngiadau yn rhan o’i gefnogaeth barhaus.  Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn dangos bod cwarantîn a chyfyngiadau symud cenedlaethol i frwydro yn erbyn COVID-19 wedi cael effaith niweidiol ar les meddyliol rhai pobl. Mae tystiolaeth debyg sy’n tynnu sylw at yr effaith negyddol y gall ataliaeth ac ymyriadau cyfyngol ei chael ar y rhai sy’n eu profi a’r rhai y mae’n rhaid iddynt ddarparu arferion cyfyngol.

Dywedodd Mahatma Gandhi y “Gellir gweld gwir natur unrhyw gymdeithas yn y modd y mae’n trin ei haelodau mwyaf agored i niwed”. Yr hyn rydyn ni’n ei wybod yw bod cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno gyda’r bwriad o leihau niwed a chadw pobl yn ddiogel. Mae pobl ag anabledd dysgu yn profi ystod eang o gyfyngiadau ar eu bywydau beunyddiol, boed hynny fel rhan o ofal wedi’i gynllunio ac o dan fframwaith deddfwriaethol clir neu o ganlyniad i fesurau anfwriadol a gymerir i gadw pobl yn ddiogel. Yn yr un modd â’n hargyfwng iechyd y cyhoedd parhaus, dylai cyfyngiadau o’r fath bob amser fod yn gymesur ac yn gam olaf mewn cyfres o ymyriadau. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin fod angen “gweithredu ar unwaith” ar ddefnyddio arferion cyfyngol yn Lloegr, megis defnyddio ataliaeth gorfforol. Dywedodd rhai ASau bod y sefyllfa bresennol yn “sgandal”. Daeth ymchwiliad i’r defnydd o ataliaeth mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr i’r casgliad bod diffyg o ran cofnodi achosion ac y dylai llywodraethau gyhoeddi diffiniadau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol o’r gwahanol fathau o arferion cyfyngol, gan adeiladu ar y diffiniadau yn y fframwaith hawliau dynol ar gyfer arferion cyfyngol. Mae lansiad Llywodraeth Cymru o fframwaith i leihau arferion cyfyngol yng Nghymru yn gam cadarnhaol ymlaen i fynd i’r afael â’r heriau o gadw pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel heb droi at gyfyngiadau a all ddadwneud rhyddid a chydraddoldeb y bu’n rhaid brwydro’n galed amdanynt.

Y Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yng Nghymru

Mae lansio’r fframwaith hwn yng Nghymru yn garreg filltir yn y newid o sicrhau bod arferion cyfyngol yn cael eu defnyddio’n gyfreithlon, fel y cam olaf ac yn ddiogel, i leihau eu defnydd yn y lle cyntaf.  Mae’r fframwaith yn didoli ataliaeth yn saith categori gwahanol sy’n berthnasol i bob dinesydd yng Nghymru ar draws y rhychwant oes ac mae’n gam pwysig ymlaen. Mae’n cynnwys:

  • ataliaeth gorfforol
  • ataliaeth gemegol
  • ataliaeth amgylcheddol
  • ataliaeth fecanyddol
  • neilltuaeth neu ynysu gorfodol
  • gwahanu hirdymor
  • gorfodaeth

Buom yn aros yn hir am y fframwaith hwn ac rydym yn cefnogi ei weledigaeth, sef:

  • Atal arferion cyfyngol diangen.
  • Datblygu’r defnydd o strategaethau lleihau gan ddefnyddio dull o weithredu sy’n seiliedig ar hawliau dynol.
  • Gweithio mewn partneriaeth i leihau’r angen ar gyfer defnyddio arferion cyfyngol mewn proses sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fel, pan na ellir osgoi defnyddio arferion cyfyngol, bod diogelwch yn cael ei sicrhau i bawb trwy gynllunio a hyfforddi ymlaen llaw.

Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei fod yn edrych ymlaen at roi’r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol ar waith, a’i fod yn cyd-fynd â’r fframwaith hawliau dynol. Nododd y comisiwn y bydd yn bwysig gwerthuso gweithrediad y fframwaith.

Bydd Gwelliant Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio’r camau nesaf i gefnogi rhoi’r fframwaith ar waith.  Os hoffech chi gysylltu â ni, anfonwch e-bost aton ni:

Ruth.Wyn-Williams@wales.nhs.uk

David.O’Brien2@wales.nhs.uk