Adfer o’r Pandemig: Blaenoriaethau Gofal Iechyd i Bobl ag Anableddau Dysgu – y Gwiriad Iechyd Blynyddol gan Paula Phillips, Uwch Reolwr Gwelliant, Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld galw digynsail ar wasanaethau iechyd, sy’n golygu bod pobl yn gorfod arfer â ffyrdd gwahanol o gael mynediad at ofal iechyd. Mewn sawl achos, roedd angen gohirio gwaith rheolaidd a daeth mynediad corfforol at Ofal Sylfaenol yn gyfyngedig.

Ni ellir amcangyfrif effaith y newidiadau hyn ar bobl ag anableddau dysgu yn rhy isel. Mae gwaith goruchwylio iechyd rheolaidd pwysig megis y Gwiriad Iechyd Blynyddol (AHC) yn faes allweddol sy’n peri pryder. Mae’r gwasanaeth ychwanegol hwn yn adolygiad rhagweithiol o anghenion iechyd unigolyn.  Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ag anabledd dysgu ddod i adnabod eu practis a’r staff yn well, fel y byddent yn ei chael hi’n haws cysylltu â’r practis hwnnw pe byddent yn teimlo’n sâl neu pe byddai ganddynt bryderon. 

Ar gyfer poblogaeth sydd â chyffredinrwydd uwch o afiacheddau a marwolaethau ac sy’n wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at ofal, mae ei werth yn ddiamheuol.  Cyn y pandemig, roedd nifer y bobl a oedd yn mynd i Wiriadau Iechyd Blynyddol yng Nghymru rhwng 30% a 60%.  Mae canfyddiadau interim o astudiaeth fawr yn y DU i brofiadau pobl ag anableddau dysgu yn ystod y pandemig yn dangos nad oedd bron hanner yr holl bobl sydd fel arfer yn cael AHC wedi mynd i un ers cyn mis Mawrth 2020. Adroddodd 30% o deuluoedd a gofalwyr cyflogedig fod iechyd corfforol yr unigolyn maent yn gofalu amdano/amdani wedi dirywio, ac mae hyn yn destun pryder.

Wrth i ni symud i’r cyfnod adfer, mae’n bwysig bod Gwiriadau Iechyd Blynyddol yn cael eu blaenoriaethu er mwyn gwella canlyniadau iechyd ar gyfer y boblogaeth hon.

I gefnogi gofal sylfaenol i ddarparu Gwiriadau Iechyd Blynyddol, mae Gwelliant Cymru wedi cyd-greu cyfres o adnoddau:

Pecyn Addysg Fodiwlaidd ar gyfer Cyflwyno Gofal Iechyd i Bobl ag Anableddau Dysgu

Mae hwn yn cynnwys 14 modiwl wedi’u grwpio yn ôl 4 thema allweddol:

  • Deall anghenion unigryw pobl ag anabledd dysgu
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd 
  • Y fframwaith moesegol a chyfreithiol 
  • Cyflwyniad i anghenion cyfathrebu pobl ag anabledd dysgu

Mae pob thema wedi’i dylunio i gael ei darparu i bawb sy’n rhan o’r broses AHC i sicrhau bod y neges yn gyson. Mae sesiynau yn cael eu cyflwyno gan y staff anabledd dysgu lleol, ac anogir cefnogaeth gan bobl ag anabledd dysgu.

Gellir dod o hyd i’r pecyn yma

Adnoddau hygyrch

Mae’r pecyn adnoddau hwn ar gyfer staff gofal iechyd yng Nghymru sy’n darparu gofal iechyd i bobl ag anabledd dysgu. Mae’r pecyn yn cynnwys dogfennau safonol hawdd eu darllen i’w rhoi i bobl ag anabledd dysgu a/neu eu gofalwyr, gan gynnwys gwahoddiad i drefnu AHC, llythyr apwyntiad AHC, rhestr wirio AHC a chynllun gweithredu iechyd.

Gellir dod o hyd i Becyn Adnoddau Gofal Sylfaenol mewn perthynas â’r Gwiriad Iechyd Blynyddol yma


Dolenni clwstwr

I gefnogi’r gwaith o ddarparu’r adnoddau hyn, gofynnwyd i wasanaethau anabledd dysgu arbenigol nodi unigolyn cyswllt ar gyfer pob Clwstwr Gofal Sylfaenol yn eu hardaloedd. Byddai’n ddefnyddiol i’r cyswllt clwstwr fynychu cyfarfodydd clwstwr lleol perthnasol, gan ddarparu maes arall o arbenigedd o gwmpas y bwrdd, ochr yn ochr â gwasanaethau cymunedol eraill.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch tîm anabledd dysgu cymunedol lleol neu, os yw ar gael yn eich ardal chi, y Gwasanaeth Cyswllt Gofal Sylfaenol Anabledd Dysgu.

Fel arall, rwy’n hapus i helpu ag unrhyw ymholiadau sydd gennych. Gallwch gysylltu â mi trwy anfon e-bost at paula.phillips4@wales.nhs.uk