Dathlu pen-blwydd cwrs fideo hunangymorth ar-lein rhad ac am ddim ‘Bywyd ACTif’, gan Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl I Gymru

Pan darodd y pandemig y llynedd, fy mhrif ffocws am fisoedd lawer oedd helpu i feddwl am yr hyn y gallem ei wneud i gefnogi pobl na allent bellach gael gafael ar gymorth yn y gymuned ac a oedd, fel minnau, yn teimlo bod pob dydd fwy neu lai yn her mewn gwahanol ffyrdd.

Un o’r adnoddau a oedd wedi bodoli cyn y pandemig oedd ‘Bywyd ACTif’; roedd yn gwrs galw i mewn (nid oedd angen atgyfeiriad) yr oeddwn yn gwybod ei fod wedi helpu gymaint o bobl. Gwnaeth y seicolegydd Dr Neil Frude ei ddatblygu a’i gynllunio, ac nid oedd ar gael bellach oherwydd y cyfnod clo. Fe’i cynhaliwyd mewn neuaddau eglwys, llyfrgelloedd a chanolfannau chwaraeon a oedd i gyd wedi cau oherwydd y pandemig.

Y flwyddyn flaenorol, roeddem wedi cefnogi ‘Action for Hearing Loss’ i ddatblygu fersiwn o’r cwrs wedi’i ffilmio yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).  Mae nifer mor gyfyngedig o adnoddau wedi’u teilwra i anghenion pobl fyddar ac sydd yn eu hiaith. Gan wybod bod hyn ar y gweill, cysylltais â Neil i ofyn a allem ddefnyddio’r sgript i greu fersiwn ar-lein o’r cwrs. Fe helpodd fi’n gyflym i ddeall bod creu fideos yn Saesneg a Chymraeg yn dasg wahanol iawn i BSL ac nad yw’n dasg y gellid ei hefelychu’n syml. Fodd bynnag, roedd yn credu y gallem ei wneud! Roedd Neil yn hynod hael gyda’i amser a chynigiodd ailysgrifennu’r cwrs cymunedol.  Fel arfer, roedd yn rhedeg am sesiynau dwy awr am bedair wythnos, a chreodd Neil rywbeth a oedd werth ei wylio, wedi’i seilio ar dystiolaeth o hyd ac yn llawer byrrach.

Roedd yr ychydig fisoedd nesaf yn hynod o brysur oherwydd yr angen i ffilmio’n ddiogel yn sgil COVID-19 ac ysgrifennu gwybodaeth atodol. Mae’r cwrs ar-lein am ddim yn cynnig cyfle i bobl wylio’r pedwar fideo pryd bynnag a lle bynnag y dymunant. 

Lansiwyd Bywyd ACTif dros yr haf 2020.   Ymledodd y neges yn gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol gyda llawer o sylwadau ac adborth cadarnhaol.  Gwnaethom gysylltu â meddygon teulu, staff gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl i’w gwneud yn ymwybodol o’r adnodd y gellid ei argymell i bobl nad oeddent yn gallu mynd i’r sesiynau galw i mewn.  Rydym yn gwybod nad yw’n hawdd i rai pobl gael mynediad at y rhyngrwyd ac mae modd cael mynediad at y cwrs mewn llyfrgelloedd nawr bod y cyfyngiadau wedi’u codi.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae ein bywydau beunyddiol wedi dechrau newid. Er bod llawer o rwystrau a heriau sylweddol o’n blaenau, efallai bod peth amser i ddechrau meddwl am ein lles ein hunain (yn hytrach na goroesi yn unig) a gall y cwrs hwn ein helpu i wneud hynny. Gall eich helpu i gymryd rhywfaint o reolaeth, canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig a byw eich bywyd gyda mwy o hyder a mwy o ymdeimlad o’ch gwerthoedd allweddol.

‘Sut ydyn ni’n gwneud yng Nghymru?’ Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae canlyniadau Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn dangos i ni fod 34% o oedolion yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth nawr na chyn y pandemig, a’n bod ni’n teimlo’n llai iach ac yn llai hapus na chyn 2020.  Rydym yn hyrwyddo’r fideos eto’r mis hwn, flwyddyn ar ôl y lansiad cychwynnol, gyda ffocws ar y cymunedau sydd wedi dioddef fwyaf â’u hiechyd meddwl dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dyma ddyfyniadau gan bobl sydd wedi rhannu â ni eleni yr effaith y mae’r cwrs wedi’i chael arnynt:

“Galla i ddweud â’m llaw ar fy nghalon fod y cwrs wedi newid fy mywyd. Rydw i’n berson gwahanol ac, erbyn hyn, rydw i’n gallu ymdopi ag unrhyw ofid neu unrhyw beth na alla i ei reoli yn llawer gwell. Diolch o galon.”

“Rydw i’n teimlo bod y cwrs hwn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fy mywyd”

 “Cwrs rhagorol fe helpodd fi i ddeall mai meddyliau yn unig yw meddyliau.”

“Dydw i ddim yn cynhyrfu gymaint nawr ac rydw i’n ymateb yn llai emosiynol i bethau. Rydw i’n gallu ymdopi â nifer o bethau y mae bywyd prysur yn eu taflu atom – rydw i’n gwneud un peth ar y tro, gan flaenoriaethu mewn ffordd resymegol yn seiliedig ar fy ngwerthoedd neu ar yr hyn sy’n bwysig. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n llawer mwy bodlon ar fy mywyd, hyd yn oed pan fo adegau anodd.”

“Rwyf wedi defnyddio’r arfau a roddodd y cwrs i mi, sy’n golygu fy mod wedi gallu derbyn yr hyn na allaf ei newid a dim ond blaenoriaethu/canolbwyntio ar yr hyn y gallaf ei wneud i helpu fy mam … Ni allaf ddiolch digon i chi a byddwn yn argymell y cwrs hwn i bawb y mae canser yn effeithio arnynt, naill ai’n bersonol neu drwy rywun y maent yn poeni amdano.”

Mae modd cael mynediad at y cwrs ‘Bywyd ACTif’ am ddim yma.  Cymerwch gip ar y fideos i wella’ch lles eich hun, eu rhannu â gweithwyr proffesiynol perthnasol, neu eu rhannu gyda theulu a ffrindiau a allai fod â diddordeb.