Cynnig partneriaeth – Sut y bydd y Strategaeth Gwelliant Cymru newydd yn cefnogi diogelwch cleifion gan Iain Roberts, Pennaeth Rhaglenni, Gwelliant Cymru
Ym mis Awst, cefais y teimlad boddhaol hynny o dynnu’r gorchudd plastig oddi ar ffôn newydd wedi’i uwchraddio gan fy nghwmni. Mae’r ffôn newydd yn wych ac mae ganddo rai nodweddion braf, camera gwell, batri sy’n para’n hirach a chwpl o apiau newydd. Ar yr olwg gyntaf, nid yw’r ffôn yn wahanol iawn, ond efallai fy mai i yw hynny, fel defnyddiwr y ffôn. Rwy’n siŵr o dan y sgrin bod y dechnoleg yn lawer gwell ac yn fwy datblygedig.
Beth sydd gan ffôn newydd i’w wneud â Diogelwch Cleifion a’r Strategaeth Gwelliant Cymru newydd i gefnogi Byrddau Iechyd gyda’u gwaith?
Elfen ganolog o ofal iechyd yw ymgyrch barhaus i wella dibynadwyedd a diogelwch gwasanaethau. Gallwn i grybwyll yma restr hir o wynebau amlwg ac ysgrifenwyr dylanwadol, sefydliadau diogelwch, dogfennau polisi a chyhoeddiadau.
Yn ystod fy ngyrfa gyda’r GIG, mae pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol rydw i wedi gweithio gyda nhw wedi ymroi eu bywydau gwaith cyfan i sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion. Mae hyn wedi amlygu’i hun yn glir yn ystod y pandemig. Nid oes ryfedd i’r cyhoedd sefyll y tu allan i’w drysau ffrynt a churo dwylo i’r GIG.
Mae cynnal dibynadwyedd uchel ym maes gofal iechyd yn dibynnu ar gynifer o ffactorau. Niferoedd staff, cyfleusterau, sgiliau a hyfforddiant, galw, ffactorau dynol. Gallwn restru rhagor.
Wrth i gyfyngiadau’r pandemig leddfu, mae gennym gymaint o waith i’w wneud i helpu cleifion a staff.
Yn y gorffennol byddai Gwelliant Cymru wedi ceisio cefnogi gwaith gwella trwy weithredu ystod o raglenni sy’n canolbwyntio ar y niwed neu’r pryderon mwyaf cyffredin yn y system. Rydym yn dal i ddarparu cefnogaeth a gomisiynwyd yn genedlaethol mewn meysydd allweddol, ond mae ein strategaeth newydd yn cyflwyno newid i ffordd newydd o weithio hefyd, gan gydnabod yr hyn a ddysgwyd yn ystod y pandemig. Ychydig fel fy ffôn newydd, rydyn ni’n cyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau ond mae’r ffocws yn aros yr un fath – i herio’r niwed mwyaf cyffredin a chefnogi GIG Cymru gyda’i welliannau.
Mae gan bob bwrdd iechyd dimau diogelwch cleifion a llywodraethu sydd wedi’u hen sefydlu i gefnogi’r gofal iechyd gorau posibl. Ein strategaeth yw gweithio gyda sefydliadau a’u strwythurau diogelwch i’w helpu i archwilio cyfleoedd i ddod yn gryfach fyth. Creu’r cysylltiad hwnnw rhwng ymwybyddiaeth y Weithrediaeth o ba mor ddiogel yw’r system nawr a symud ymhellach tuag at ddiwylliant o atal niwed yn y dyfodol yn hytrach nag edrych i’r gorffennol.
Mae’r pandemig wedi effeithio ar bob system gofal iechyd yn y byd. Mae pob system gofal iechyd yn ffocysu ar ddiogelwch cleifion hefyd. Rydym wedi ymrwymo i helpu GIG Cymru i ddysgu gyda chydweithwyr o bob cwr o’r byd, fel y gallwn wella ein gwybodaeth, archwilio arloesiadau, a chanmol a chryfhau’r strwythurau presennol sydd gennym. P’un a yw’n dysgu gan ddiwydiant, arbenigwyr o’r DU neu weddill y byd. Byddwn yn cynnig ein cefnogaeth i’r sylfeini sylfaenol hyn yn ein sefydliadau sy’n meithrin diogelwch.
Wrth i chi dynnu’r gorchudd plastig oddi ar sgrin strategaeth newydd Gwelliant Cymru, gwelwch bethau rydych chi’n eu hadnabod a rhai elfennau newydd. Mae’n gynnig o bartneriaeth, cefnogaeth i’n staff a’n cyfoedion, yn gyfle i adeiladu ar y datblygiadau arloesol a’r dysgu gan y pandemig ac mae’n strategaeth a fydd ymhen amser yn gwneud gwahaniaeth i staff a chleifion. Byddwn yn datblygu ein ffordd ymlaen gyda chi.
Bydd ein strategaeth newydd yn cael ei lansio ar 17 Medi, Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd. Dilynwch ein sianeli i gael y diweddariadau diweddaraf.