Pobl ag Anabledd Dysgu, Adroddiad Effaith Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE); Myfyrdodau Gwelliant Cymru gan Dr Rachel Ann Jones, Arweinydd Rhaglen Anabledd Dysgu a’r Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd y GIG a Diogelwch Cleifion/Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru

Mae adroddiad Effaith NICE ar Bobl ag Anabledd Dysgu a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn anodd i’w ddarllen. Ar gyfartaledd bydd pobl ag anabledd dysgu yn marw o leiaf 20 mlynedd ynghynt na chi neu fi. Mae hynny’n fel arfer 23 mlynedd yn llai o fywyd i ddynion a 27 mlynedd yn llai o fywyd i fenywod. [1]

Mae’r ymchwil yn dweud wrthym fod heriau darparu gofal iechyd amserol, diogel ac effeithiol yn cyfrannu at farwolaethau y gellir eu hosgoi. Roedd 41% o farwolaethau oedolion o achosion meddygol y gellir eu trin a 24% o achosion meddygol y gellir eu hatal. [2] Yn anffodus, nid yw’r ystadegau hyn yn ynysig, ond yn rhan o sylfaen dystiolaeth gynyddol sy’n amlygu i ba raddau y mae pobl ag anabledd dysgu yn profi anghydraddoldebau iechyd yn y DU.

Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru, a oedd yn cynnwys tîm arbenigol bach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion ac ymchwilwyr o bob rhan o Gymru. Nod y rhaglen oedd cynnig cymorth gwella wrth gyflawni camau gweithredu iechyd, fel y disgrifir yn agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru, y rhaglen Gwella Bywydau. Gellir dadlau mai’r rhaglen Gwella Bywydau yn ei chyfanrwydd oedd y buddsoddiad mwyaf o ran adnoddau a chanllawiau cenedlaethol i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru ers 30 mlynedd. Y nod yn ei hanfod yw gwella bywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru drwy drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau ar lefel genedlaethol. Ychydig fisoedd ar ôl i’r rhaglen ddechrau, daeth COVID-19.

Mae llawer o dystiolaeth i ba raddau y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n anghymesur ar y rhai a oedd eisoes â’r anghenion iechyd a chymdeithasol mwyaf. Roedd pobl ag anabledd dysgu 6 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID-19 na phobl eraill.

Mae’r anghyfartalwch y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei wynebu bellach yn fwy nad ydoedd cyn y pandemig. Mae’r dasg wella dan sylw yn llawer mwy heriol na phan ddechreuwyd datblygu’r Rhaglen Gwella Bywydau. Ac er ein bod wedi cymryd camau sylweddol ymlaen, gan gynnwys cyflwyno’r Fframwaith Addysgol Anabledd Dysgu, Proffil Iechyd Unwaith i Gymru a’r pecyn adnoddau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol i deuluoedd, i raddau cymerasom un cam ymlaen, dau gam yn ôl.

Er mor ddinistriol ag y mae, gellir dadlau bod y pandemig wedi newid rhai naratifau ynghylch cydraddoldeb iechyd, ac erbyn hyn mae sylw cynyddol ar grwpiau bregus yn ein cymdeithas. Mae pobl ag anabledd dysgu wedi bod yng ngwydd y cyfryngau dro ar ôl tro, wrth i flaenoriaethau brechu a chanllawiau gwarchod gael eu datblygu a’u hamddiffyn.

O ystyried i ba raddau yr effeithiodd y pandemig yn anghyfartal ar draws ein cymdeithas, bu’n rhaid i’r cynlluniau adfer ystyried ac ymateb i ganlyniad yr effaith anghymesur hon. Mae cydraddoldeb iechyd wedi’i roi wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19 yng Nghymru. Gall hyn ond fod o fantais i bobl ag anabledd dysgu a bydd yn hanfodol bod yr holl waith sy’n ceisio hybu gwella ansawdd ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn ystyried yr anghydraddoldebau a brofir.

Mae adroddiad NICE hefyd yn cynnwys meysydd blaenoriaeth penodol, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys argymhellion ynghylch: gwiriadau iechyd; addasiadau rhesymol; integreiddio comisiynu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn lleol; a datblygu’r gweithlu. Felly, er bod yr adroddiad yn annifyr, mae’r blaenoriaethau hyn sydd wedi’u mynegi’n dda, sy’n cynnwys llais pobl ag anabledd dysgu, y mae llawer ohonynt yn adlewyrchu’r agenda Gwella Bywydau yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer gwaith gwella a mecanweithiau y gallwn obeithio eu defnyddio i wneud gwahaniaeth.

Os oes gennych ddiddordeb wybod rhagor am y gwaith gwella ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, cysylltwch â: gwelliantcymru@wales.nhs.uk


[1] Prifysgol Bryste. [2021] The Learning Disabilities Mortality Review Annual Report 2020. Ar gael yma:  https://leder.nhs.uk/images/annual_reports/LeDeR-bristol-annual-report-2020.pdf fel y nodir yn NICE. [2021], Impact Report: People with a learning disability. Ar gael yma: https://www.nice.org.uk/Media/Default/About/what-we-do/Into-practice/measuring-uptake/learning-disability-impact-report/Learning%20disability%20impact%20report.pdf. Cedwir pob hawl. Yn amodol ar Hysbysiad o hawliau

[2] NICE. [2021], Impact Report: People with a learning disability. Ar gael yma:  https://www.nice.org.uk/Media/Default/About/what-we-do/Into-practice/measuring-uptake/learning-disability-impact-report/Learning%20disability%20impact%20report .pdf. Cedwir pob hawl. Yn amodol ar Hysbysiad o hawliau

Paratoir canllawiau NICE ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr. Mae holl ganllawiau NICE yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a gellir eu diweddaru neu eu tynnu’n ôl. Nid yw NICE yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddefnyddio ei gynnwys yn y cynnyrch/cyhoeddiad hwn.