Pwysigrwydd Archwiliadau Iechyd Blynyddol (AHC) i bobl gyda anabledd dysgu.
Gan Paula Phillips, Uwch Reolwr Gwelliant, Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi gweld galw digynsail ar wasanaethau iechyd, sy’n golygu bod pobl yn gorfod arfer â ffyrdd gwahanol o gael mynediad at ofal iechyd. Mewn sawl achos, roedd angen gohirio gwaith rheolaidd a daeth mynediad corfforol at Ofal Sylfaenol yn gyfyngedig.
Ni ellir amcangyfrif effaith y newidiadau hyn ar bobl ag anableddau dysgu yn rhy isel. Mae gwaith goruchwylio iechyd rheolaidd pwysig megis y Gwiriad Iechyd Blynyddol (AHC) yn faes allweddol sy’n peri pryder. Mae’r gwasanaeth ychwanegol hwn yn adolygiad rhagweithiol o anghenion iechyd unigolyn. Mae’n rhoi cyfle i bobl ag anabledd dysgu ddod i adnabod eu practisiau a’u staff yn well. O ganlyniad, os bydd unigolyn yn mynd yn sâl neu os bydd ganddo bryderon iechyd, bydd yn ei chael yn haws cysylltu a chyfleu ei symptomau a’i bryderon.
Daeth astudiaeth ddiweddar o bobl ag anabledd dysgu sy’n byw yng Nghymru i’r casgliad bod cael archwiliad iechyd yn gysylltiedig â llai o farwolaethau, yn enwedig i’r rhai â Syndrom Down neu pobl ag anabledd dysgu a Awtistiaeth. Ni ellir gwadu ei werth i boblogaeth sydd â mwy o achosion o afiachedd a marwolaethau ac sy’n wynebu rhwystrau i gael mynediad at ofal. Ategir hyn yn Adroddiad Effaith NICE ar Bobl sydd ag Anableddau Dysgu (Saesneg yn unig) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae heriau wrth ddarparu gofal iechyd amserol, diogel ac effeithiol yn cyfrannu at farwolaethau y gellir eu hosgoi. Roedd 41% o farwolaethau oedolion yn deillio o achosion meddygol y gellir eu trin ac roedd 24% o achosion meddygol y gellir eu hatal. [1]
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n anghymesur ar y rhai sydd eisoes â’r anghenion iechyd a chymdeithasol mwyaf. Roedd pobl ag anabledd dysgu 6 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID-19 na phobl eraill.
Cyn y pandemig, roedd nifer y bobl a oedd yn mynd i Wiriadau Iechyd Blynyddol yng Nghymru rhwng 30% a 60%. Mae canfyddiadau astudiaeth fawr yn y DU i brofiadau pobl ag anableddau dysgu yn ystod y pandemig yn dangos mai dim ond 40% o’r ymatebwyr a gafodd archwiliad iechyd yng Nghymru rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021.[2] Ar draws y DU, dim ond 38% o bobl a oedd fel arfer yn cael gwiriad iechyd blynyddol oedd wedi derbyn un. [3] Adroddodd teuluoedd a gofalwyr cyflogedig fod iechyd corfforol yr unigolyn maent yn gofalu amdano/amdani wedi dirywio, ac mae hyn yn destun pryder.
Wrth i ni symud i’r cyfnod adfer, mae’n bwysig bod archwiliadau iechyd blynyddol yn cael blaenoriaeth er mwyn gwella canlyniadau iechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi a marwolaethau cynamserol i’r boblogaeth hon. Mae adroddiad NICE yn argymell y dylai archwiliadau iechyd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu fod yn faes blaenoriaeth. Ategir hyn yng Nghymru gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella mynediad i wiriadau iechyd o ansawdd da yng Nghymru
Er mwyn cefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru i ddarparu archwiliadau iechyd blynyddol, mae Gwelliant Cymru wedi cyd-gynhyrchu cyfres o adnoddau hygyrch i’w defnyddio wrth wahodd pobl i’w harchwiliad iechyd.
Mae’r pecyn yn cynnwys dogfennau safonol hawdd eu darllen i’w rhoi i bobl ag anabledd dysgu a/neu eu gofalwyr, gan gynnwys gwahoddiad i drefnu archwiliad iechyd blynyddol, llythyr apwyntiad archwiliad iechyd blynyddol, rhestr wirio archwiliad iechyd blynyddol a chynllun gweithredu iechyd.
Gellir dod o hyd i Becyn Adnoddau Gofal Sylfaenol mewn perthynas â’r Gwiriad Iechyd Blynyddol yma.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch tîm anabledd dysgu cymunedol lleol neu, os yw ar gael yn eich ardal chi, y Gwasanaeth Cyswllt Gofal Sylfaenol Anabledd Dysgu. Fel arall, rwy’n hapus i helpu ag unrhyw ymholiadau sydd gennych. Gallwch gysylltu â mi trwy anfon e-bost at paula.phillips4@wales.nhs.uk.
[1] NICE. [2021], Adroddiad Effaith: Pobl sydd ag anabledd dysgu. Ar gael yma: https://www.nice.org.uk/Media/Default/About/what-we-do/Into-practice/measuring-uptake/learning-disability-impact-report/Learning%20disability%20impact%20report .pdf. (Saesneg yn unig) Cedwir pob hawl. Yn amodol ar Hysbysiad o hawliau
[2] Anabledd Dysgu Cymru. [2021] https://www.ldw.org.uk/Wales-Easy-Read-Highlights-Wave-1-March-2021-.pdf (Saesneg yn unig)
[3] Anabledd Dysgu Cymru. [2021], Rhan 3 Canfyddiadau Astudiaeth Coronafeirws a Phobl ag Anabledd Dysgu. Ar gael yma: https://www.ldw.org.uk/part-3-findings-from-the-corona-virus-and-people-with-a-learning-disability-study/ (Saesneg yn unig)
Paratoir canllawiau NICE ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr. Mae holl ganllawiau NICE yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a gellir eu diweddaru neu eu tynnu’n ôl. Nid yw NICE yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddefnyddio ei gynnwys yn y cynnyrch/cyhoeddiad hwn.