Cerdded milltir yn esgidiau rhywun arall gyda’r Bartneriaeth Gofal Diogel

Gan yr Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru a Chyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG.


Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru

Un o fanteision prin iawn yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw fy mod wedi llwyddo i ddechrau rhedeg eto. Rwy’n cydnabod ‘mod i’n mynd yn ddigon dow-dow, ond rydw i wedi troedio milltiroedd lawer ar fy mheiriant rhedeg ac ar y ffyrdd. Rwy’n gwella’n araf bach, yn cyflymu rhywfaint a, diolch byth, ychydig yn ysgafnach.

Tybed a fyddai unrhyw un ohonoch chi sy’n darllen y blog hwn yn fodlon cerdded neu redeg milltir gyda mi dros y misoedd nesaf. Byddwn i’n fwy na pharod i redeg gyda chi’n bersonol pe byddech yn fodlon arafu i mi. Ond mae’r filltir rydw i’n siarad amdani yma ychydig yn wahanol. Mae Gwelliant Cymru yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau i greu’r amodau, i adeiladu’r gallu ac i wneud y cysylltiadau er mwyn galluogi gwelliant i ffynnu. Mae hyn yn swnio’n deilwng iawn. Ond does dim posibl gwneud dim o hyn heb ddeall y cyd-destun. Ac er mwyn gwneud hynny mae angen i ni gerdded milltir gyda’n cydweithwyr mewn byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, sy’n parhau i ddarparu gofal dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Ac ar adegau efallai y bydd angen i ni redeg.

Ar ran GIG Cymru, mae Gwelliant Cymru wedi creu Partneriaeth Gofal Diogel yn ddiweddar gyda’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) a byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru. Mae’r bartneriaeth hon wedi’i chreu er mwyn cefnogi cenhadaeth Gwelliant Cymru i gefnogi’r gwaith o greu system iechyd a gofal o’r ansawdd gorau i Gymru fel bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle iawn ac ar yr amser iawn ar draws y system ofal gyfan. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi ymweld â nifer o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gydag aelodau o’r tîm a’r IHI er mwyn deall y cyd-destun. Beth sy’n digwydd mewn sefydliadau? Beth yw’r heriau? Gyda beth y mae arnyn nhw angen cymorth? Beth, ble a phwy yw’r esiamplau disglair?

Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy ngwahodd i lawer o ardaloedd clinigol ac anghlinigol fel rhan o’r ymweliadau hyn. Ac rwyf wedi teimlo’n ostyngedig iawn wrth weld balchder y staff wrth rannu eu hymrwymiad i’r gwaith y maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd. Mae clywed am yr heriau wir yn sobri rhywun.

Mae Gwelliant Cymru ac IHI yn ceisio deall y ffordd fwyaf effeithiol rydym yn cefnogi timau a sefydliadau yn er mwyn dal i fynd i’r afael â’r agenda ansawdd a diogelwch cleifion yng Nghymru. Mae’n amlwg bod yna themâu cyffredin sy’n dechrau dod i’r amlwg o’r ymweliadau.

Gofal Diogel Gyda’n Gilydd yw thema gyffredinol y gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd gyda byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Yn y pen draw, bydd yn datblygu i fod yn Gydweithredfa Diogelwch Cleifion ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon.

Ond er mwyn darparu gofal diogel, gyda’n gilydd, mae angen i ni wir ddeall yr hyn sy’n digwydd a’r heriau y mae pawb yn eu hwynebu. O’r bwrdd i’r ward, a thu hwnt. A dyna’r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

Mae cerdded milltir yn esgidiau rhywun arall yn tarddu o gerdd gan fardd Americanaidd, Mary T Lathrap:

Pray, don’t find fault with the man that limps,
Or stumbles along the road.
Unless you have worn the moccasins he wears,
Or stumbled beneath the same load.

There may be tears in his soles that hurt
Though hidden away from view.
The burden he bears placed on your back
May cause you to stumble and fall, too…….

Remember to walk a mile in his moccasins
And remember the lessons of humanity taught to you by your elders.
We will be known forever by the tracks we leave
In other people’s lives, our kindnesses and generosity.

Take the time to walk a mile in his moccasins.

Mae hon yn berthnasol iawn i’r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd er mwyn ceisio deall. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy gyda chi wrth i ni barhau â’n taith o amgylch Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y Bartneriaeth Gofal Diogel ar gael yma.