Her sepsis a chydnabod dirywiad acíwt
Gan Clare Dieppe, Arweinydd Clinigol, Gwelliant Cymru.
Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn ystafell perthnasoedd yr uned dibyniaeth uchel yn aros am ddiweddariad ar fy mhartner a oedd newydd gael ei dderbyn o’r Adran Achosion Brys gyda sepsis. Fel meddyg, roedd bod yn berthynas yn aros am ddiweddariad yn anodd, ond efallai nad oedd mor anodd â phendroni y noson gynt a oedd fy mhartner mor sâl â hynny mewn gwirionedd ac ar ba bwynt yr oedd angen imi uwchgyfeirio’r mater — nid aros gartref mwyach a dilyn y cyngor a roddwyd gan y meddyg teulu, ond mynd â hi i’r ysbyty yn hytrach. Y newyddion da yw ein bod wedi amseru pethau’n iawn – ond wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Sepsis y Byd eleni, ces i fy atgoffa o’r digwyddiad hwn ac nid yn unig her sepsis, ond y cam cyn hynny –adnabod dirywiad acíwt.
Mae dirywiad acíwt yn ymwneud â chydnabod y pwynt lle mae angen lefel wahanol o ofal ar y claf ac uwchgyfeirio i’r person neu i’r lle cywir i sicrhau bod hynny’n digwydd. Mewn ysbytai, rydym yn monitro arsylwadau fel cyfradd curiad y galon, cyfradd resbiradol, tymheredd a lefelau ocsigen, fel y gallwn gadw golwg ar a yw cleifion yn gwella neu’n gwaethygu. Ond nid ydym bob amser mor effeithiol ag y dylem fod wrth gydnabod neu ymateb i’r pwynt lle mae hyn yn newid. Yn bwysig, nid yn yr ysbyty yn unig y mae angen i ni gydnabod y newid, mae dirywiad acíwt yn digwydd ar draws y system gofal iechyd ac ar draws pob oedran. Babanod â dirywiad mewn salwch anadlol ac y mae angen cymorth peiriant anadlu arnynt, oedolion â chlefyd cronig y mae angen lefel wahanol o driniaeth arnynt, cleifion ar ddiwedd eu hoes y mae angen newid ffocws eu gofal — mewn cartrefi gofal, hosbisau, meddygfeydd ac ysbytai.
Wrth i mi eistedd yn yr ystafell aros heb wybod pa mor sâl oedd fy mhartner roeddwn yn meddwl tybed a ddylwn fod wedi dod i mewn yn gynharach neu ymateb i gyfradd curiad y galon gynyddol yn gynt. Sylweddolais y gallai fy meddwl fy hun fod wedi fy rhwystro rhag cydnabod pa mor sâl oedd hi. Nid oeddwn i’n credu bod ganddi unrhyw reswm sylfaenol i fod yn ddifrifol wael ac roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n teimlo’n ‘wirion’ pe bawn i’n dod â hi i’r ysbyty yn ddiangen. Gall meddyliau tebyg i’r rhain ddigwydd yn y system gofal iechyd hefyd — pryderon ynghylch tarfu ar bobl hŷn; peidio â chredu’r arsylwadau annormal gan nad oes gan y claf unrhyw ffactorau risg ar gyfer salwch difrifol; dibynnu ar ein profiad clinigol yn fwy na’r canfyddiadau o’n blaenau. Mae hyn yn golygu, ochr yn ochr â defnyddio sgoriau rhybudd cynnar a sgoriau penodol i batholeg, fod angen i ni edrych ar y prosesau, y diwylliannau a’r ffactorau unigol ehangach sy’n dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn ymateb i ddirywiad acíwt mewn gwahanol feysydd ar draws pob agwedd ar y system gofal iechyd i gefnogi a gwella.
Roeddwn yn gallu gwthio’r meddyliau hyn o’r neilltu yn ddigon cynnar i uwchgyfeirio’n briodol, gyda chefnogaeth wych gan fy nghydweithwyr ar ôl i ni gyrraedd yr Adran Achosion Brys a pharhau pan symudwyd fy mhartner i’r Uned Dibyniaeth Fawr, ond yn anffodus nid yw hyn yn wir bob amser. Mae gan wella’r gydnabyddiaeth a’r ymateb i ddirywiad acíwt ran enfawr i’w chwarae wrth wneud gofal yn fwy diogel ac yn well i bob claf ar draws y system gofal iechyd gyfan. Yn ffodus, mae dirywiad acíwt yn un o’r meysydd y mae’r Gydweithredfa Gofal Diogel yn mynd i ganolbwyntio arno. Mae’n agwedd ar ein gwaith gwella yr wyf yn gyffrous ac yn falch o fod yn gweithio arni fel rhan o’m rôl.
Os hoffech chi ddysgu mwy am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o sepsis a’r adnoddau sydd ar gael, gwrandewch ar ein podlediad Trafod Gwelliant gyda Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU.