Hunaniaeth Gymdeithasol Gadarnhaol – Beth yw ein rôl mewn gwelliant?
Gan Bethany Kruger, Uwch Reolwr Gwella, Gwelliant Cymru.
Ers erioed, rydym wedi ceisio deall ein byd a rheoli ein lle ynddo. Rydym wedi ceisio chwilio am ystyr a dealltwriaeth. Beth mae’n ei olygu i fod yn fi? A beth mae’n ei olygu i fod yn rhywun arall?
Rydym yn categoreiddio neu’n labelu ni ein hunain ac eraill i’n helpu i wneud synnwyr o’r hyn sydd o’n cwmpas, naill ai er mwyn ei gymharu neu ei dderbyn. I lawer ohonom mae hyn yn rhoi ymdeimlad o berthyn neu safle o werth yn ein cymdeithas sy’n cael ei werthfawrogi a’i barchu. Ond, efallai nad yw hynny’n wir i bawb.
Mae pennu labeli fel ‘anabledd dysgu’ neu ‘anabledd deallusol’ ar draws addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn arfer cyffredin a gellir ei weld fel rhywbeth cadarnhaol. Yn aml mae’n caniatáu mynediad at adnoddau a gofal a thriniaeth briodol, fel Gwiriadau Iechyd neu wasanaethau arbenigol sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu.
Yn gadarnhaol, bu newid mewn agweddau tuag at bobl sydd ag anableddau dros y degawdau diwethaf gyda phwyslais ar gynhwysiant a chydraddoldeb. Fodd bynnag, ni ddylem fod yn naïf nac yn anwybodus am ddylanwad gosod labeli ar y rhai rydym yn eu cefnogi.
Gall y labeli rydym yn eu defnyddio er mwyn hwyluso, galluogi a grymuso fod yn cyfyngu ac yn cael dylanwad negyddol ar hunaniaeth ac ymddygiad. Mae stigmateiddio, eithrio a gwahaniaethu yn niweidiol a gallant gael canlyniadau annymunol ar les a ffyniant person ar hyd eu hoes. Mae labelu wedi cael ei feirniadu am ysgogi a chynnal ymyleiddio, cywilydd ac embaras. Byddai cydweithiwr i mi yn aml yn sôn ‘labelu jariau ac nid pobl’ wrth addysgu.
Yn bwysig, sut mae pobl yn gweld eu hunain neu sut y dylai pobl ddelio â’u hanabledd deallusol; sydd, gellir dadlau, wedi’i lunio’n gymdeithasol mewn ymgais i roi ystyr i ni gyd?
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn gwrthod ac yn diystyru’r label hwn (1). Yn anffodus, mae pobl yn sylweddoli sut mae eraill yn gweld y label hwn a’r goblygiadau cymdeithasol, gan sôn am brofiadau o gael eu trin yn wahanol, eu hanwybyddu neu eu gwrthod (2). Yn aml mae pobl yn gweld labelu fel peth negyddol ac yn disgrifio teimladau o anhapusrwydd, dicter a diffyg grym, felly pam ein bod yn ystyried hyn yn rhan bwysig o gymeriad person a sut gallwn ni lywio ein hagweddau a’n hymddygiad ein hunain?
Mae llawer o bobl wrth gyfeirio atynt eu hunain yn sôn am briodoleddau, rolau a chymwyseddau (3). Yr holl agweddau rydych chi a minnau’n eu gwerthfawrogi ac yn falch ohonynt. Fel rhai sy’n gwella, ein rôl yw cydgynhyrchu iechyd a gofal cymdeithasol; i greu amodau lle gall dysgu ffynnu a meithrin gallu a chapasiti.
Fodd bynnag, nid wyf yn awgrymu anwybyddu gwahaniaethau, gan ei bod yn bosib mabwysiadu tybiaethau ynglŷn ag homogenedd. Yr hyn rwy’n ei awgrymu yw ein bod yn ymwybodol o sut rydym yn defnyddio labeli; sut, fel rhai sy’n gwella, rydym yn ystyried sut rydym yn meddwl ac yn gweithredu?
Mae The habits of an improver, The Health Foundation, 2015 (4) yn cynnig ffordd o fframio sgyrsiau a set o arferion gwella sy’n hwyluso tirwedd o amgylcheddau, ac yn bwysicaf oll, pobl, gyda photensial ac effeithiol. Tirwedd lle gallwn ni fel rhai sy’n gwella hybu hunaniaeth gymdeithasol gadarnhaol.
Felly y tro nesaf y bydd angen i chi ystyried a chynnwys y rhai rydym yn ceisio’u cefnogi, stopiwch, a gofynnwch i chi’ch hun, a ydw i’n dilyn, yn diwygio neu’n gwrthod.
Cyfeiriadau
- Logeswaran, S., Hollett, M., Zala, S., Richarson, L. and Scior, K. How do people with intellectual disabilities construct their social identity? A review. Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities. 2018; (32) 533-542. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1111/jar.12566
- Monteleone, R., & Forrester‐Jones, R. ‘Disability Means, um, Dysfunctioning People’: A qualitative analysis of the meaning and experience of disability among adults with intellectual disabilities. Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities. 2016; (30) 301-305. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/jar.12240
- Jahoda, A., Wilson, A., Stalker, K., & Cairney, A. Living with stigma and the self‐perceptions of people with mild intellectual disabilities. Journal of Social Issues. 2010; (66) 521–534. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1540-4560.2010.01660.x
- The Health Foundation. The habits of an improver. https://www.health.org.uk/sites/default/files/TheHabitsOfAnImprover.pdf [Mynediad 18 Awst 2022].