Meithrin gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd; Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd

Gan Dr Rachel Ann Jones C.Psychol AFBPsS, Arweinydd y Rhaglen Anableddau Dysgu Genedlaethol.


“Bydd y gwerthoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau y bydd staff gofal iechyd yn eu hennill trwy gwblhau’r hyfforddiant hanfodol hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad cleifion ag anabledd dysgu. Mae’r hyfforddiant hwn yn etifeddiaeth i Paul, ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wneud hyn yn orfodol.”

Sefydliad Paul Ridd


Dr Rachel Ann Jones

Yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu (19-25 Mehefin), roeddem am dynnu sylw at hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd. Bydd unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl sy’n ymwneud â’r cyhoedd o fewn gofal iechyd yn GIG Cymru wedi ei gweld yn ymddangos yn eu cofnod staff electronig.

Roedd Paul Ridd yn byw yng Nghymru, roedd ganddo anabledd dysgu ac yn 2009 bu farw yn sgil marwolaeth y gellid ei osgoi yn dilyn nifer o  fethiannau yn y system gofal iechyd. Roedd yn hanner cant a phedair oed. Ers colli Paul, mae ei deulu ac eraill wedi ymgyrchu am well hyfforddiant a chefnogaeth i staff gofal iechyd i ddarparu gofal mwy diogel i bobl ag anabledd dysgu. Yn anffodus, nid yw stori Paul yn achos ynysig. Mae ymchwil yn dweud wrthym fod pobl ag anabledd dysgu yn profi anghydraddoldebau iechyd ac yn marw flynyddoedd lawer yn iau na chi neu fi. 

Mae’r hyfforddiant yn elfen sylfaenol bwysig o’r Fframwaith Addysgol Anabledd Dysgu i Staff Gofal Iechyd. Comisiynwyd a datblygwyd y fframwaith a’r hyfforddiant gan Gwelliant Cymru, fel rhan o Raglen Anabledd Dysgu Llywodraeth Cymru

Nod yr hyfforddiant a’r fframwaith yw cefnogi staff gofal iechyd i ddatblygu eu hyder a’u galluoedd eu hunain i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn gallu cael gofal iechyd priodol. Mae adeiladu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ar draws y gweithlu yn weithred allweddol wrth leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ag anabledd dysgu.

Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd yn orfodol i holl staff GIG Cymru sy’n ymwneud â’r cyhoedd ei gwblhau. Gellir ei wneud drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR) neu drwy wefan Learning@Wales. Fe’i lluniwyd ochr yn ochr â phobl ag anabledd dysgu a rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector.

Mae’r hyfforddiant yn gwneud staff yn ymwybodol o’r rhwystrau a wynebir gan bobl ag anableddau dysgu wrth gael gafael ar ofal iechyd. Mae’n ymdrin â phynciau gan gynnwys cyfathrebu, deall ac ymateb i ymddygiad, anghenion iechyd pobl ag anabledd dysgu, materion cyfreithiol a pholisi.

Rydym ni a theulu Paul yn gobeithio y bydd yr hyfforddiant yn rhoi gwybodaeth i staff gofal iechyd ar yr hyn y mae angen iddynt ei wybod a’i wneud, er mwyn nodi a diwallu anghenion iechyd pobl ag anableddau dysgu yn effeithiol. Drwy rymuso’r gweithlu gyda gwell gwybodaeth, rydym yn cymryd cam cadarnhaol, diamheuol, i leihau’r anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.