Archwilio ddulliau gwahanol i helpu rhaglenni gwaith cymhleth newydd


I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu (19-25 Mehefin) ymhellach, buom yn siarad â Dr Hamish Cox CPsychol, Rheolwr Mewnwelediad ac Ymarfer Myfyriol Q Lab Cymru, a Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella Anableddau Dysgu i rannu’r hyn a ddysgwyd o’u prosiect cydweithio diweddar.

Gan fabwysiadu dull Systemau Dysgu Dynol, cynhaliodd Q Lab Cymru (QLC – darllenwch fwy am y fenter yma) a’n Tîm Anableddau Dysgu (LDT) gyfres o weithdai cydweithredol. Bu’r timau’n archwilio, datblygu, profi ac yn gweithredu syniadau i helpu i lywio datblygiad y Rhaglen Gwella Anableddau Dysgu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Y gyfres o weithdai

Cysylltodd yr LDT â QLC am eu cymorth yn gynnar yn y broses gan fod y tîm yn awyddus i sicrhau bod y rhaglen waith newydd hon yn mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a bod ganddi bwyslais ar ddysgu.

Cynlluniodd QLC gyfres o weithdai a oedd yn canolbwyntio ar ddull Systemau Dysgu Dynol (HLS). Mae’n rhoi arweiniad i feddwl yn feirniadol a gweithredu, yn hytrach na model neu fframwaith anhyblyg. Mae ei egwyddor ddysgu ganolog yn darparu lens archwiliadol i sefydlu arbrofion ar raddfa fach sy’n helpu i alluogi newid ar raddfa fawr.

Er nad yw’n ddull arbennig o newydd, mae ei sylfaenwyr, yn ôl y disgwyl, yn dal i ddysgu am sut y gellir ei ddefnyddio ar draws sectorau. Roedd y tîm QLC yn ymgysuro yn y didwylledd hwn i arwain eu dull archwiliadol eu hunain wrth ddefnyddio HLS am y tro cyntaf.

Bwriad y gyfres o weithdai oedd sbarduno chwilfrydedd a chreadigrwydd. Er mwyn meithrin egni creadigol y tîm, dewiswyd lleoliad y gyfres o weithdai (Parc Gwledig Bryngarw) yn benodol i ddarparu noddfa i’r dychymyg ac ymdeimlad o wahanu oddi wrth amgylchedd gwaith swyddfa. Daeth ‘cerdded a siarad’ adfyfyriol a chymryd ysbrydoliaeth gan fyd natur yn gonglfeini i drafodaethau beirniadol.

Dywedodd Hamish, “Cynlluniwyd y gyfres o weithdai i ymgorffori proses gydweithredol ac iteraidd a oedd yn caniatáu’r gallu i addasu yn seiliedig ar anghenion yr LDT. Gan ddefnyddio methodoleg sy’n seiliedig ar hyfforddi ar y cyd, fe wnaethom gyflwyno’r LDT i iaith a phrif gysyniadau yr HLS wrth gefnogi eu trafodaethau a gosod ymarfer myfyriol wrth wraidd y dysgu. Er mwyn cefnogi dull hyblyg HLS, fe wnaethom hefyd ymgorffori adnoddau ategol sy’n seiliedig ar systemau a chymhorthion meddwl, gan gynnwys Critical Systems Heuristics (Ulrich & Reynolds, 2010), a Participatory and Appreciative Action and Reflection (Ghaye et al., 2008).

Dysgu allweddol

Daeth yn amlwg yn gyflym y byddai dull HLS o fudd i bob aelod tîm ar draws y rhaglen waith anableddau dysgu gyfan, o ystyried ei bwyslais ar rannu dysgu o fewn ac ar draws systemau.

Dywedodd Rebecca: “Mae gweithio gyda QLC wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol ac ar lefel bersonol, y peth pwysicaf rydw i wedi’i ddysgu o’r gweithdai yw ei bod hi’n iawn dechrau lle’r ydych chi, hyd yn oed pan fyddwch chi’n llywio systemau mawr, cymhleth (sy’n aml yn anhrefnus). 

Mae fy nhaith HLS wedi fy ngalluogi i fod yn fwy adfyfyriol fel unigolyn, gan feddwl beth yw fy ngwerthoedd craidd a sut mae hyn yn trosi i’r ffordd yr wyf yn datblygu ac yn cynnal perthnasoedd a chysylltiadau yn y gwaith. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i fyfyrio ar sgyrsiau ‘anghyfforddus’ ac i feddwl am sut rydw i’n dysgu fel unigolyn a sut rydw i’n ceisio rhannu fy nysgu ar draws fy rhwydweithiau.”

Y camau nesaf

Aeth partneriaid yn Llywodraeth Cymru (LlC) i’r gweithdy cyntaf hefyd. Dywedodd Rebecca: “Bydd y camau nesaf yn cynnwys sesiwn adborth gyda LlC i amlygu sut y bydd HLS yn llywio gweithgareddau’r LDT yn y dyfodol. Bu llawer o egni a meddwl creadigol o fewn y tîm, ac o ran y camau nesaf, rydym wedi cael trafodaethau gyda QLC mewn perthynas â chymorth parhaus i’n helpu i roi rhai o’n syniadau ar waith.”

Os hoffech ragor o wybodaeth am waith QLC ewch i’w tudalen we. Mae rhagor o wybodaeth am waith Anableddau Dysgu Gwelliant Cymru yma.


Cyfeiriadau
  • Ghaye, T., Melander-Wikman, A., Kisare, M., Chambers, P., Bergmark, U.D., Kostenius, C., & Lillyman, S. (2008). Participatory and Appreciative Action and Reflection (Ghaye et al., 2008) Reflective Practice, 9(4), 361-397.
  • Ulrich, W. & Reynolds, M.A. (2010). Critical systems heuristics. Yn M. Reynolds, & S. Holwell (Gol.), Systems approaches to managing change: A practical guide (tud. 243-292). Llundain: Springer.