Dathlu 75 mlynedd o’r GIG
Lee McQuaide, Uwch Reolwr Gwella ar gyfer Academi Gwelliant Cymru |
Wrth i ni nodi 75 mlynedd o’r GIG, rydym yn dod i adnabod aelod newydd o Dîm Gwelliant Cymru, i ddeall ei rôl o ran gwelliant a’i gyfraniad at GIG Cymru.
Lee McQuaide ydw i, Uwch Reolwr Gwella ar gyfer Academi Gwelliant Cymru. Fel rhan o fy rôl, rwy’n datblygu ac yn cyflwyno cyrsiau gwella i staff iechyd a gofal. Ar ôl 28 mlynedd o weithio yn y diwydiant dur fel Peiriannydd Mecanyddol cymwysedig ac yna mewn rolau arwain ar draws y diwydiant, ymunais â’r GIG ym mis Ionawr 2022.
Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio yn y diwydiant dur, ond ar ôl gwylio’r newyddion yn ystod y pandemig, dywedais wrth fy ngwraig y byddwn wrth fy modd yn defnyddio fy mhrofiad a’m sgiliau mewn lleoliad gofal iechyd i helpu i wneud gwahaniaeth.
I mi, gwelliant yw cymhwyso offer a thechnegau i safoni’r ffordd yr ydym yn gweithio i ddarparu gwasanaeth effeithiol. Gellir defnyddio methodoleg gwella a ddefnyddir yn y diwydiant dur er budd gofal iechyd hefyd. Rwy’n cofio tîm gwella o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ymuno â ni ar ymweliad safle i ddysgu am ein rhagoriaeth weithredol. Gwelodd y tîm sut y gwnaethom ddefnyddio safoni i osgoi gwyriadau a sut y gwnaethom newid ymddygiad ac arferion er mwyn creu effeithlonrwydd yn y ffordd rydym yn gweithio yn y pen draw. Roedd yr amser a dreuliwyd gyda’r tîm yn gyfle gwych i rannu’r hyn a ddysgwyd rhwng y ddau sector ac roeddwn yn ffodus i glywed profiadau uniongyrchol gan staff y GIG. Helpodd yr ymweliad hwn fi i wneud y newid a throsglwyddo fy sgiliau gwella i’r GIG.
Gan ddefnyddio’r sgiliau a enillais o’r diwydiant dur megis meddwl darbodus a safoni, rwy’n bennaf yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant gwella pwrpasol i staff i gefnogi gwell diogelwch ac ansawdd o fewn GIG Cymru. Fel rhan o bortffolio Academi Gwelliant Cymru, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau craidd i weddu i ddysgwyr ar unrhyw gam o’u taith tuag at welliant. Rydym hefyd yn cyflwyno nifer o gyrsiau Gwelliant Ychwanegol byr sy’n ategu’r dysgu. Hyd yn hyn, rwyf wedi darparu dros 40 o gyrsiau ac mae rhagor o hyfforddiant ar y gweill. Rwy’n credu y dylai’r holl staff groesawu gwelliant a cheisio datblygu eu sgiliau i gefnogi eu timau i ddarparu gofal mwy effeithiol.
Byddwn wrth fy modd yn gweld diwylliant gwella o safon fyd-eang yn GIG Cymru ac mae cofrestru ar un o gyrsiau’r Academi yn ffordd wych o ddechrau hynny. Rydym yn datblygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau ein bod yn bodloni gofynion cyfnewidiol y GIG. Mae’n dîm hynod ddiddorol a chyffrous.
Ewch i dudalen we Academi Gwelliant Cymru i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael.