Iaith a rennir – sut gall hyn ddatblygu gwelliant?
Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella, Gwelliant Cymru
Fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithio o fewn y GIG ers 2017, gallaf yn hawdd dynnu ar lawer o enghreifftiau o’r heriau sydd wedi codi o beidio â chael cyd-ddealltwriaeth a dealltwriaeth a rennir o’r iaith a ddefnyddir bob amser. Mae hyn yn enwedig o wir wrth weithio a chydweithio â phartneriaid ar draws gofal cymdeithasol ac addysg.
Enghraifft dda o hyn yw pan ymunais â Gwelliant Cymru, roeddwn yn trafod nifer y ‘trawsnewidiadau’ y bydd unigolion yn eu profi trwy gydol eu hoes gydag aelodau fy nhîm. Yn wir, roedd y sgwrs honno’n dangos bod pob un ohonom yn defnyddio’r term ‘trawsnewid’ i ddynodi rhywbeth gwahanol yn ein dealltwriaeth, ond yn aml gall fod rhagdybiaeth dawel mewn cyfarfodydd ein bod i gyd yn rhannu’r un ddealltwriaeth o dermau.
Nid wyf yn ofni cyfaddef fy mod i hefyd wedi bod mewn sefyllfa lle bu’n rhaid i mi chwilio’n gyflym am ystyr rhai geiriau a ddefnyddir yn ystod cyfarfodydd ar bob lefel ac rwyf yn aml angen eglurhad o acronymau. Un acronym o’r fath sydd wedi achosi llawer o ddryswch i mi o fewn y Tîm Anabledd Dysgu yw’r acronym Saesneg ALN. Mae’r talfyriad hwn nid yn unig yn sefyll am Anghenion Dysgu Ychwanegol (Additional Learning Needs) ym maes addysg ond hefyd am Nyrs Gyswllt Acíwt (Acute Liaison Nurse) ym maes gofal iechyd. Wrth gynllunio ffrwd waith lle mae’r ddau ystyr o ALN yn nodwedd amlwg, gallwch werthfawrogi pa mor hawdd y gall pethau fynd yn ddryslyd.
Nid yw dryswch ynghylch jargon sefydliadol yn gysyniad newydd [1] (Alderwick & Gottleib, 2019) a gwyddom y gall camddealltwriaeth o ystyr arwain at oblygiadau pwysig, yn enwedig pan fyddwn yn gweithio ar draws disgyblaethau proffesiynol sydd yn aml â ffyrdd gwahanol o feddwl.
Yn seiliedig ar y ddamcaniaeth cyfalaf cymdeithasol, [2] mae Nahapiet & Ghoshal (1998) yn amlygu pwysigrwydd ein rhyngweithio cymdeithasol â’n gilydd. Mae’r ffordd yr ydym yn datblygu perthnasoedd, yn rhannu ein hadnoddau, ac yn creu iaith a rennir yn ein harwain nid yn unig i gyfnewid a chyfuno ein gwybodaeth yn effeithiol, ond mae hefyd yn cefnogi sut y gallwn ddatrys ein problemau ar y cyd, gan greu canlyniadau gwell i bawb [3] (Pamplin et al, 2011).
Ond sut ydyn ni’n gwneud hyn pan fyddwn ni’n defnyddio geiriau efallai nad yw pobl eraill yn eu deall yn yr un ffordd?
Un agwedd yr wyf yn canmol y Tîm Anabledd Dysgu amdani yw eu hymrwymiad i gynwysoldeb iaith ac am argymell bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu mewn fformat hygyrch, sy’n gam gwirioneddol gadarnhaol tuag at helpu eraill i gyrchu gwybodaeth a mynegi eu barn ar sail gyfartal [4] (erthygl 21 o Ddeddf Hawliau Dynol, 1998).
Wrth ddatblygu proses ymgeisio ddiweddar ar gyfer grantiau i brosiectau gwella, roeddwn yn ymwybodol iawn o’r iaith fyddai’n cael ei defnyddio. Roedd yn bwysig bod unrhyw jargon gofal iechyd yn cael ei ddileu er mwyn i bob corff cyhoeddus deimlo ei fod yn cael ei gynnwys. Roedd yn ymdrech ymwybodol i feddwl sut y gallem chwalu rhai o’r ffiniau sefydliadol, yn enwedig y rhai a all fodoli oherwydd iaith neu jargon. Fe wnaethom ofyn cwestiynau i’n hunain fel, a fyddai ysgol yn gwneud cais am grant gyda’r geiriad gofal iechyd yn y canllawiau? A allwn ni aralleirio datganiadau i ehangu’r ystyr a bod yn fwy cynhwysol i ddisgyblaethau eraill?
Aethom ati i geisio adborth gan ymgeiswyr, ysgolion ac awdurdodau lleol a ddywedodd, “pa mor braf yw cael ffurflen gais, a theimlo am y tro cyntaf, y gallem wneud cais am rywbeth” a “galluogodd y diffyg rhwystrau yn y broses i ni ymchwilio i elfennau eraill megis methodoleg gwella”.
Gyda’r enghraifft hon mewn golwg, rwy’n eich annog bob amser i ystyried yr iaith a ddefnyddiwch yn eich gwaith a meddwl bob amser am sut y gallwch wneud gwybodaeth yn glir ac yn gynhwysol. Gadewch i ni gymryd yr amser i gael adborth am ein hiaith ac annog diwylliant lle nad yw’r geiriau a ddefnyddiwn yn achosi unrhyw rwystrau anfwriadol, a datblygu iaith a rennir gyda chyd-ddealltwriaeth sy’n hygyrch i bawb.
Cyfeiriadau
[1] Alderwick, H., Gottlieb, LM [2019]. Meanings and Misunderstandings: A Social Determinants of Health Lexicon for Health Care Systems. Ar gael yma: onlinelibrary.wiley.com
[2] Nahapiet, J., a Ghoshal, S. [1998]. Social capital, intellectual capital, and the organisational advantage. Ar gael yma: https://www.jstor.org/stable/259373
[3] Pamplin, JC, Murray, SJ, a Chung, KK [2011]. Phases-of-illness paradigm: better communication, better outcomes. Ar gael yma: ccforum.biomedcentral.com
[4] Deddf Hawliau Dynol [1998]. Ar gael yma: legislation.gov.uk