Pam Mae Cwmni Ceir yn Gweithio gyda Thimau Canser Cymru ar y Llwybr Lle’r Amheuir Canser

Gan Jonathan Clarke, Ymgynghorydd Clust, Trwyn a Gwddf, Arweinydd Clinigol, Gwelliant Cymru a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Gwella Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.


Jonathan Clarke

Mae’n wych gweld ail garfan gwaith gwella’r Llwybr Lle’r Amheuir Canser, mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru a Rhwydwaith Canser Cymru ar y gweill.

Golyga hyn bod saith tîm canser ledled Cymru yn edrych ar eu llwybr canser i leihau’r amser a gymerir rhwng amheuaeth a diagnosis o ganser. Maent yn cael eu cefnogi gan Gwelliant Cymru a System Gynhyrchu Toyota ar gyfer hyn. Ydw i’n drysu? Onid ceir mae Toyota yn eu cynhyrchu? 

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf ohonom ni wellhawyr, wedi clywed yr acronym ‘PDSA’ sy’n golygu Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu. Mae’n rhan o’r dull Gwella Ansawdd o’r enw Model ar gyfer Gwella. Fodd bynnag, mae methodolegau gwella eraill ac mae ‘Darbodus’ yn un o’r rheini. Mae rhan helaeth o ddatblygiad Meddylfryd Darbodus wedi’i arwain gan Toyota trwy System Gynhyrchu Toyota (TPS). Mae dulliau darbodus yn helpu i wella llif a dileu gwastraff, sy’n ddelfrydol ar gyfer llwybr claf i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.

Mae Taiichi Ohno gan Toyota yn disgrifio beth yw Darbodus isod:

“Y cyfan rydyn ni’n ei wneud yw edrych ar linell amser o’r eiliad mae’r cwsmer yn rhoi archeb i ni i’r pwynt pan fyddwn ni’n casglu’r arian parod. Ac rydym yn lleihau’r amserlen honno drwy gael gwared ar y gwastraff nad yw’n ychwanegu gwerth.”

Gallwn weld o’r dyfyniad hwnnw bod hwn yn debyg i’n Llwybr Lle’r Amheuir Canser. Yn lle’r cwsmer yn rhoi archeb i ni rydym yn derbyn atgyfeiriad ac erbyn diwedd y 28 diwrnod rydym yn gobeithio cael y diagnosis, nid arian parod. Drwy ddefnyddio’r dulliau Darbodus, rydym yn gobeithio y bydd y timau canser yn gallu dod o hyd i ffyrdd o leihau’r amserlen lle’r amheuir canser er mwyn gwneud diagnosis neu wella’r nifer cleifion sy’n cael y diagnosis o fewn 28 diwrnod.

Mae defnyddio’r dull Darbodus hwnnw o weithredu eisoes yn dangos potensial mawr ar gyfer cyflawni’r nod hwnnw. Mae tîm amlddisgyblaethol y Colon a’r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cwtogi 21 diwrnod o’r amser rhwng pwynt amheuaeth a phenderfyniad i roi triniaeth, ac wedi cynnal y newid hwnnw. Maent yn parhau i wneud gwelliannau ac mae’n gyffrous gweld faint y byddant yn ei gyflawni gan ddefnyddio’r egwyddorionDarbodus.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda maen nhw wedi cynllunio clinig diagnostig un-stop newydd i gleifion. Bydd hyn yn galluogi cleifion i gael gweithdrefnau endosgopi a radioleg yn yr un apwyntiad clinig.

Mae hyn yn rhoi addewid mawr i’r garfan newydd, sy’n mynychu Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yng Nglannau Dyfrdwy ar gyfer hyfforddiant dwys yn y dullDarbodus fel rhan o’r rhaglen.

Os ydych yn rhan o dîm canser a bod gennych ddiddordeb yn y gwaith hwn, byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgir gan bob un o’r timau amlddisgyblaethol sy’n cymryd rhan drwy gydol y rhaglen. Os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Gwelliant Cymru.