Beth sydd a wnelo mesur ag ef?

Gan Kate Mackenzie, Pennaeth Dadansoddeg Gwelliant, Gwelliant Cymru

Kate Mackenzie

Beth yw mesur ond meddwl ail-law? Mae data a mesur yn cael eu hystyried mor aml yn bethau negyddol sy’n lladd brwdfrydedd yn eich ymdrechion i wella.

Rwy’n deall hynny. Nid dyna’r rheswm yr oedd llawer o bobl eisiau gweithio ym maes gofal iechyd, ac mae’n teimlo’n ddieithr iawn. Dylech groesawu data i’ch cylch dethol yn hytrach na’u trin fel rhywbeth o’r tu allan, a dechrau edrych a gwrando ar eu perlau cudd. Nid yw data mor estron pan fyddwch chi’n treulio amser yn dod i’w hadnabod. Ac fel y cyfeillgarwch gorau, dyma’ch sylfaen, yr hyn y gallwch chi ddibynnu arno bob amser (yn llythrennol).

Yn fyr, mae mesurau yn eich helpu i ddysgu a yw’r newidiadau yr ydych yn eu gwneud yn arwain at welliant. Dylai’r mesurau fod yn gyson trwy gydol cylch oes prosiect gwella ansawdd. Ar ddechrau prosiect (neu yn aml cyn y dechrau), mae angen dealltwriaeth ddofn o’ch system arnoch i ddysgu mwy am y broblem a maint eich her. Rydych chi eisiau gallu adnabod y rhythmau, y patrymau, yr amrywiaeth sy’n bodoli a symud oddi wrth fodoli ar stori yn unig. Rydych chi’n gwella eich dealltwriaeth o’ch system a’ch prosesau. Bydd hyn yn eich helpu i lunio’r hyn sydd angen i chi ei wella, sut i wneud hynny ac o faint. Rydym yn mesur i ddysgu.

Un o sgil-gynhyrchion y dysgu hwn fydd casglu data ‘gwaelodlin’ cyn i chi hyd yn oed ddechrau profi eich newidiadau. Meddyliwch amdano fel llun ‘cyn’ prosiect, ac ar ddiwedd eich prosiect.  Byddwch mor falch eich bod wedi gwneud hyn gan y bydd yn eich helpu i ddeall a ydych wedi gwneud gwahaniaeth.

Pan fydd eich prosiect ar y gweill, rydych chi eisiau gwybod a yw’r hyn rydych chi’n ei wneud yn gweithio. Dyma lle mae angen inni feddwl am fethodoleg gwella. Sut ydych chi’n gwybod bod newid yn welliant? Sut ydych chi’n ei fonitro? Sut ydych chi’n gwybod a oes effaith gadarnhaol neu negyddol ar unwaith? Rydych chi eisiau gwybod a yw eich newidiadau wedi cael effaith – a chofiwch nad yw pob newid yn welliant.

Yng nghamau olaf eich prosiect, meddyliwch am sut y gallwch chi rannu eich stori a dangos gwerth. Mae gofal iechyd yn canolbwyntio llawer ar fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Sut allwch chi ddangos bod y gwaith wedi gwneud gwahaniaeth? Fel y dywedodd W Edwards Deming: “Heb ddata, dim ond person arall â barn ydych chi.” Os ydych chi’n mesur drwy’r amser, o’r dechrau hyd at ddiwedd prosiect, rydych chi’n dysgu pan fydd rhywbeth wedi gweithio a phan na fydd wedi gweithio.

Mae mesur yn llifo trwy bopeth y mae timau yn ei wneud yn y Gydweithredfa Gofal Diogel. Mae pob prosiect gwella yn cyfrannu at ein dysgu drwyddo draw ac yn gatalydd ar gyfer newid diwylliant hirdymor yn GIG Cymru.

Fel rhan o’r daith ddysgu honno, mae mesurau wedi’u llunio ar y cyd â’r holl gyfranogwyr sy’n pennu cynnydd ac effaith ar gyfer prosiectau unigol; ar gyfer grwpiau priodol o brosiectau; ac fel menter gydweithredol gyffredinol.

Mae timau wedi cael eu hannog i ddechrau mesur cyn iddynt feddwl eu bod yn barod (dysgu am eu system), i wneud mesur yn gamp tîm (dysgu bod yn glir ynghylch beth i’w gasglu a phryd), a chasglu dim ond digon o ddata i ddysgu sut i wneud y cam nesaf.

Mae’r Gydweithredfa yn dod â’r timau prosiect hyn ynghyd fel man profi ar gyfer newid, gan archwilio sut y gall system y GIG yng Nghymru addasu i wneud gwelliannau i ffynnu. Mae’r mesurau a ddefnyddir gan y Gydweithredfa yn ein helpu i ddeall effaith ehangach y gwaith wrth i dimau gydweithio i greu diwylliant dysgu o wella sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch ac ansawdd.

Trwy ddysgu am eich system gofal iechyd, adeiladu diwylliant o ddiogelwch, a cheisio gwella diogelwch cleifion, gallwch wella profiad claf a theulu trwy wneud un gwelliant ar y tro.


Adnoddau

Gallwch gysylltu â Thîm Dadansoddeg Gwelliant Cymru os hoffech siarad am sut i ddefnyddio mesurau yn eich gwaith analytics-improvementcymru@wales.nhs.uk

Ac edrychwch ar Lyfrgell Adnoddau Academi Gwelliant Cymru am becynnau cymorth defnyddiol i’w defnyddio yn eich taith wella.