Archwilio Systemau Dysgu Dynol

Gan Mandy Westcott, Uwch Reolwr Gwella a Chydweithio Labordy Q Cymru

Mandy Westcott

Mae Systemau Dysgu Dynol (HLS) yn ffordd amgen o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n croesawu cymhlethdod, perthnasoedd a dysgu. Ei nod yw creu gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u teilwra i gryfderau ac anghenion unigryw pob unigolyn, teulu a chymuned y maent yn eu gwasanaethu.

Yn Labordy Q Cymru, rydym yn chwilfrydig am HLS a’i botensial i drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio yn GIG Cymru a’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Rydym wedi sefydlu rhaglen helaeth o gefnogaeth gyda’r Centre for Public Impact, gan ddechrau gyda chyfres o Sesiynau Darganfod sy’n ymchwilio i bosibiliadau HLS. Rydym wedi gwahodd ymarferwyr, arweinwyr ac arbenigwyr o bob rhan o’r DU i gymryd rhan a rhannu eu syniadau am ddefnyddio HLS yn eu cyd-destunau.


Sesiwn Ddarganfod 1

Roedd y Sesiwn Ddarganfod gyntaf ar 8 Tachwedd 2023 yn ddigwyddiad hybrid, a bu cyfranogwyr yn ymuno â ni ar-lein neu’n bersonol mewn lleoliad cymunedol yng Nghymru. Roedd hon yn ffordd arloesol ac ymgysylltiol o gyrraedd ein cynulleidfa amrywiol, a chawsom ein gwefreiddio gan frwdfrydedd y cyfranogwyr.

Arweiniwyd y sesiwn gan yr Athro Toby Lowe a gyflwynodd egwyddorion allweddol HLS ac archwiliodd sut y gall gwasanaethau cyhoeddus weithio’n well i bobl gan ddefnyddio’r dull hwn sy’n cefnogi gofal a gwelliant a arweinir gan bobl. Dangosodd sut y gall dysgu fod yn strategaeth reoli, un o egwyddorion craidd HLS. Rhoddodd rai enghreifftiau go iawn, megis sut mae Cyngor Plymouth yn ei gymhwyso i annog cydweithrediad a gwerth yn lle targedau.

Dywedodd Toby: “Diben rheolaeth gyhoeddus yw helpu pobl i greu canlyniadau da yn eu bywydau. Mae angen i ni agor y drws i’r realiti cymhleth o ran sut mae bywydau yn gweithio mewn gwirionedd.”

Mandy Westcott gyda rhai o’r cyfranogwyr yn lleoliad cymunedol YMa ym Mhontypridd

Rhannodd y siaradwr gwadd Gary Wallace, Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd o Gyngor Plymouth, ei fewnwelediad ar HLS. Dywedodd y byddai canlyniadau gwell yn deillio o roi’r gorau i’r rheolaeth a chroesawu’r dull hwn sy’n seiliedig ar berthnasoedd ac ymddiriedaeth.

Dysgon ni ffyrdd ymarferol o ddechrau HLS gan Ruth Ball o’r Centre of Public Impact, megis sut i feithrin dewrder a momentwm. Meddai wrthym: “Peidiwch ag aros i bethau fod yn berffaith, ni fyddant byth – mae hynny’n rhan o gymhlethdod. Dechreuwch o ble rydych chi a byddwch yn dysgu llawer o bethau.” Ychwanegodd hi: “Peidiwch ag esgeuluso perthnasoedd, maen nhw’n hanfodol i amlygu gwahanol safbwyntiau ac i ddeall sut mae pŵer, gwneud penderfyniadau a chaniatâd yn gweithio”.

Sbardunodd y sesiwn chwilfrydedd, creadigrwydd a dysgu. Roedd yn meithrin cymuned a chysylltiad ymhlith y cyfranogwyr, a fu’n trafod, yn myfyrio ac yn rhannu eu profiadau HLS. Canfuom fod y sesiwn yn ymgysylltiol ac yn ysgogi’r meddwl a datgelodd y diddordeb a’r brwdfrydedd dros HLS a’r awydd i ddysgu mwy am sut i ddefnyddio’r dull hwn.


Parhau â’r daith ddysgu hon

Roeddem yn falch iawn gyda llwyddiant y Sesiwn Ddarganfod gyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen at y ddwy sesiwn nesaf, a fydd yn canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol a’r heriau o weithredu HLS mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd y sesiwn nesaf ar 13 Rhagfyr 2023 yn archwilio’r offer a’r dulliau a all ein helpu i gymhwyso HLS yn ein gwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, neu os ydych yn adnabod rhywun a allai fod yn agored ac yn barod i ddysgu mwy, cofrestrwch yma neu helpwch i rannu’r gwahoddiad yn ehangach. Gobeithiwn eich gweld yno, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar y daith hon o ddarganfod a dysgu am HLS. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a chreu gwell gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru.