Momentwm – pam ei fod yn bwysig o ran gwelliant a sut y gallwn ei adeiladu.
Gan Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd, Gwelliant Cymru
Ar y daith o wella gofal iechyd mae un elfen hanfodol sy’n aml yn pennu ein llwyddiant sef momentwm.
Dyma’r grym sy’n ein gyrru ymlaen, gan ein galluogi i oresgyn rhwystrau a chyrraedd ein nodau. Yr egni sy’n adeiladu wrth i chi weithredu, dysgu o’ch profiadau a defnyddio’r wybodaeth honno i yrru eich hun ymhellach.
Cynhaliwyd y drydedd sesiwn ddysgu o’r Gydweithredfa Gofal Diogel fis diwethaf, lle bu 220 o staff iechyd a gofal o bob cwr o Gymru yn rhannu eu profiadau gwella. Roedd yn cynnwys sesiynau ‘sbotolau’ a ‘bwrdd stori’ lle’r oedd timau o bob rhan o Gymru yn adrodd eu straeon am eu gwaith gwella fel rhan o’r rhaglen gydweithredol. Roedd yn gyffrous gweld bod cymaint o fomentwm wedi bod yn cynyddu yn eu gwaith.
Mae momentwm yn bwysig mewn gwelliant am bedwar prif reswm:
- Goresgyn syrthni – ar ddechrau unrhyw daith wella, yn aml mae gwrthwynebiad a syrthni – dyma pryd mae momentwm yn hollbwysig. Mae’n eich helpu i dorri’n rhydd o’r ffyrdd presennol o weithio ac ar ôl i chi ddechrau, daw’n haws dal ati.
Mae gwaith Gwella Llwybr Cywasgiad Metastatig ar Linyn Asgwrn y Cefn (MSCC) a amheuir Felindre, a rannodd ar eu bwrdd stori ‘mae’r tîm wedi nodi ystod o opsiynau newid nad oeddent wedi’u hystyried yn flaenorol’’, yn dangos i ni eu bod wedi goresgyn syrthni ac wedi adeiladu momentwm o amgylch yr ymgysylltu.
- Meithrin hyder – mae pob buddugoliaeth fach a cham ymlaen yn ychwanegu at hyder eich tîm, gan danio’r penderfyniad i barhau i wella.
Dangosodd Model Rhyddhau Cleifion Integredig Ysbyty Neville Hall yn Sir Fynwy enillion yn eu data o ran gostyngiad mewn amrywiad Hyd Arhosiad. Bydd yr arwyddion gobeithiol cynnar hyn yn adeiladu hyder y tîm. Yn yr un modd, mae ffrwd waith gymunedol Bae Abertawe yn defnyddio astudiaethau achos i ddangos effaith yr ap iStumble, a gall straeon fod yr un mor bwerus â data.
- Cynnal cymhelliant – mae cynnydd cyson yn cadw cymhelliant yn fyw.
Mae Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn rhannu newidiadau sylweddol mewn Sgoriau Rhybudd Cynnar Cenedlaethol (NEWS) a gyfrifwyd o arsylwadau brysbennu, yn ogystal â’r set lawn o arsylwadau ffisiolegol ar adeg brysbennu. Mae cadw’r data hwn yn weladwy i’r tîm cyfan yn helpu i gynnal cymhelliant.
- Addasiad a gwytnwch – mae momentwm yn eich helpu i addasu i heriau annisgwyl – bydd yn helpu eich timau i ddod o hyd i ffyrdd o lywio rhwystrau a pharhau ar eich taith tuag at welliant.
Fel y tîm Grymuso Cleifion Allanol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – maent yn defnyddio’r dull sbrint i addasu a meithrin gwytnwch wrth iddynt ledaenu’r gwelliannau ar draws arbenigeddau.
Yn wyddonol, mae momentwm yn cael ei bennu gan ddau ffactor: faint o stwff a pha mor gyflym y mae’n symud. Roedd y straeon hyn yn y sesiwn ddysgu yn dangos pa mor gyflym mae’r holl ‘stwff’ yn symud! Rydym wedi ennill momentwm gwirioneddol o ran diogelwch cleifion yng Nghymru, ac mae hynny oherwydd ymrwymiad parhaus yr holl dimau a’r cydweithwyr ehangach sy’n cefnogi’r gwaith yn y grŵp cydweithredol.
Wrth geisio gwella, mae momentwm yn arf hanfodol. Gall droi’r daith fwyaf heriol yn antur werth chweil. Trwy osod nodau clir, aros yn gyson, dysgu o’ch profiadau a’ch data, a cheisio cefnogaeth gan eich hyfforddwyr a’ch noddwyr gallwch feithrin a chynnal y momentwm sydd ei angen i gyflawni gwelliant parhaus.
Cofiwch, nid yw’n ymwneud â pherffeithrwydd, mae’n ymwneud â chynnydd. Daliwch ati i symud ymlaen a byddwch yn rhyfeddu at yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd i ddarparu gofal diogel yng Nghymru.