Dathlu blwyddyn gyntaf Academi Gwelliant Cymru ac edrych tua’r dyfodol gan Dominique Bird Pennaeth Capasiti a Gallu

Flwyddyn yn ôl i’r wythnos hon, roeddem yn dathlu lansio Gwelliant Cymru ac Academi Gwelliant Cymru.

Fe wnaethon ni dreulio dau ddiwrnod gyda dros 650 ohonoch chi’n rhannu arferion da, gwelliannau rhwydweithio a dulliau dysgu i wella ar y lefelau micro a system a bu partneriaid o Ogledd Iwerddon a’r Alban yn archwilio dull system rheoli ansawdd.

Lansiodd y gynhadledd hefyd y bartneriaeth rhwng Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Iechyd er mwyn sefydlu’r Q Lab Cymru arloesol – y labordy cyntaf o’i fath y tu allan i Lundain.

Am flwyddyn rydyn ni i gyd wedi’i chael ers hynny.  Mae timau bellach yn wynebau mewn blychau ar sgriniau gyda cheginau, soffas neu ystafelloedd teganau sydd wedi’u troi’n swyddfeydd ad-hoc ar frys yn gefndir iddynt.  Mae’r gwasanaeth cyfan wedi dysgu sgiliau newydd, mae wedi adeiladu systemau newydd ac wedi diwallu anghenion ymateb i bandemig digynsail.

Ac mae gwelliant wedi dangos ei allu ar gyflymder, yn lleol ac yn genedlaethol. 

Nododd tystiolaeth o Welliant Cymru a’r hyn mae’r Sefydliad Iechyd wedi’i ddysgu gan y system Covid themâu galluogi allweddol o gydweithredu trawsffiniol; dysgu ar y cyd a ffocws ar arbrofi. Mae hyn oll wedi’i gefnogi gan gymysgedd effeithiol o arweinyddiaeth ganolog a gwasgaredig.    Buom yn siarad yn lansiad Academi Gwelliant Cymru am yr angen i greu’r amodau i welliant allu ffynnu, i gefnogi cysylltiadau ac i feithrin ein gallu i wella – sut rydyn ni’n adeiladu ymddiriedaeth gydag arweinwyr ar bob lefel, sut rydyn ni’n adeiladu’r sgiliau a sut rydyn ni’n cysylltu’r elfennau hyn.   Mae’r agweddau hyn yn bwysicach nawr nag erioed er mwyn i ni gadw’r gwelliannau a’r newidiadau anhygoel yr ydym wedi’u gweld yn y system, ac i sicrhau ein bod yn rhoi’r gorau i’r agweddau hynny a rwystrodd arwain gwelliant ar bob lefel yn y gorffennol.

Mae’r Academi wedi trosglwyddo ei gynnig hyfforddiant gwelliant i weddu i’r amgylchedd rhithwir, ac mae’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes Addysg a Gwella Iechyd Cymru i lansio Gwelliant Ymarferol ar-lein.  Rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda’n partneriaid yn NHS Education for Scotland i dreialu ein cwrs Cynghorydd Gwelliant rhithwir (Scottish Improvement Leader Programme).  Rydym newydd bennu dyddiadau ar gyfer ein grŵp nesaf, fydd yn dechrau ddiwedd haf 2021 (cysylltwch ag emma.rowe@wales.nhs.uk i ddatgan eich diddordeb).

Byddwn hefyd yn croesawu tîm newydd Q Lab Cymru dros y misoedd nesaf.  Bydd Q Lab Cymru yn darparu gofod a sgiliau i’r rhai sydd am wella i roi mewnwelediadau i rôl gwelliant yn y dyfodol i gefnogi adferiad a chynnal y pethau cadarnhaol a luniwyd gan y ffordd y mae timau wedi bod yn gweithio dros yr 8 mis diwethaf – yn gysylltiedig, wedi’u galluogi, yn greadigol ac yn gydweithredol.

Er ein bod yn dal i wynebu ansicrwydd gaeaf gyda Covid, bydd gwelliant yn chwarae ei ran, a bydd Gwelliant Cymru yno, heb amheuaeth, i’ch cefnogi yn y dyfodol.

#GydanGilyddFeAllwn