Dathlu blwyddyn y nyrs a’r fydwraig gyda Lisa Fabb, Gwelliant Cymru
Dechreuais fy hyfforddiant nyrsio dros 30 mlynedd yn ôl, ond rwy’n dal i gofio ysgrifennu traethawd a oedd yn cynnwys y dyfyniad “The very first requirement in hospital is that it should do the sick no harm”
Roeddwn i’n meddwl y byddai cynnwys dyfyniad gan Florence Nightingale yn sicrhau y byddem o leiaf yn pasio, ond nid oeddwn ar y pryd yn gwerthfawrogi gymaint y byddai’r dyfyniad hwnnw’n dylanwadu arnaf drwy gydol fy ngyrfa. Mae’n briodol mai’r flwyddyn 2020, sef 200 mlynedd ers geni Florence Nightingale, yw blwyddyn y nyrs a’r fydwraig Sefydliad Iechyd y Byd gan fod yr hyn a ddywedodd hi bryd hynny yn dal i fod yn flaenoriaeth nawr.
Mae’r dyfyniad yn rhedeg drwy waith nyrsio. Mae gan God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bedair egwyddor y mae’n rhaid i nyrsys a bydwragedd y DU ddangos eu bod yn eu cyflawni yn eu gwaith, ac un ohonynt yw ‘Cynnal Diogelwch’. Rwy’n siŵr y byddai Florence yn rhyfeddu at yr holl leoedd y mae nyrsys yn gweithio ynddynt nawr i gynnal a gwella iechyd corfforol a meddyliol. Nid yw’n rhywbeth sy’n digwydd yn yr ysbyty yn unig.
Cyn ymuno â Gwelliant Cymru, bûm yn gweithio ym maes addysg a hyfforddiant nyrsys (fel Florence!) a gofynnwyd imi gynnal sesiwn hyfforddi mewn ymateb i ddigwyddiad yn aml. Roeddwn yn ei chael hi’n rhwystredig gan y byddai’r nyrsys gweithgar yr oeddwn yn eu hyfforddi yn gallu disgrifio’r weithdrefn (yr oedd pryderon diogelwch yn ei chylch) yn berffaith heb amheuaeth. Pan ofynnwyd iddynt pam na ellid cyflawni hyn, esboniwyd yr holl broblemau gyda’r system neu’r amgylchedd a oedd yn eu hatal rhag ei wneud. Sylweddolais nad oedd modd cynnal diogelwch drwy addysg yn unig, ond bod angen archwilio systemau, nodi problemau a rhoi mesurau ar waith i ni fod yn sicr bod pethau’n ddiogel – sef yr hyn yr oedd Florence Nightingale hefyd yn ei wneud fel rhan o’i gwaith yn yr 1800au. Nid yw hyn yn beth syml i nyrsys prysur ei wneud, ond gall timau Gwelliant ddarparu’r offer a’r sgiliau i’w helpu.
Yn fy rôl fel Rheolwr Gwella Cynorthwywyr Gofal Iechyd (fel Florence!), rwy’n dal i geisio sicrhau na fydd yr ysbyty’n gwneud niwed i neb. Mae defnyddio dyfeisiau mewnfasgwlaidd a chathetrau wrinol yn rhan angenrheidiol o ofal acíwt ond daw risg yn eu sgîl, yn enwedig y risg o gael haint. Cathetrau gwythiennol perifferol (PVCs) yw’r dyfeisiau sy’n creu archoll a ddefnyddir fwyaf cyffredin mewn ysbytai acíwt yng Nghymru. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (2017) bydd gan 35% o gleifion dyfais PVC wedi’i gosod ar unrhyw adeg . Ar ben hynny, roedd gan 55% o gleifion â haint llif gwaed ddyfais PVC wedi’i gosod 48 awr cyn i’r haint ymddangos ac roedd gan 3 allan o 4 o gleifion â haint llif gwaed, yr ystyriwyd bod yr haint yn gysylltiedig â gofal iechyd, ddyfais PVC wedi’i gosod 48 awr cyn yr haint.
Yn ddiweddar, bûm yn gweithio gydag uned dderbyn i leihau nifer yr heintiau llif gwaed sy’n dod i’r amlwg wrth ddefnyddio dyfeisiau sy’n creu archoll. Er y credid bod yr ateb yn ymwneud â defnyddio’r bwndel PVC yn fwy, ar ôl archwilio’r broblem, gwnaethom sylweddoli mai tynnu’r PVC yn brydlon a fyddai’n cael yr effaith fwyaf. Rydym bellach yn defnyddio model newid ymddygiad i gyflawni hyn. Nid wyf yn disgwyl i’m gwaith gael ei ddathlu 200 mlynedd yn ddiweddarach fel yn achos Florence, a oedd yn arloeswr go iawn, ond hoffwn feddwl fy mod i’n cyfrannu yn fy ffordd fy hun drwy sianelu ei hangerdd dros wella.
Yn wahanol i Florence, rwy’n ffodus i weithio mewn tîm sy’n deall cymhlethdod gofal iechyd ac sydd â’r arbenigedd a’r sgiliau i wella. Mae gennym nyrsys a bydwragedd rhagorol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd ac sy’n awyddus i wella gofal iechyd. Felly yn 2020, gadewch i bawb geisio bod yn debycach i Florence trwy wneud gwelliannau sy’n lleihau niwed – gadewch inni eich helpu ar eich taith gwella drwy ddilyn ein hyfforddiant am ddim sy’n addas ar gyfer pob lefel. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.