Pa welliannau yr hoffech chi gael eich cofio amdanynt ymhen 200 o flynyddoedd?
Wrth i ni ddechrau 2020 yn dathlu Blwyddyn Nyrsys a Bydwragedd Sefydliad Iechyd y Byd, cyfarfyddwn ag Elinore a Donna i siarad am sut oedd ymagwedd Florence Nightingale at nyrsio yn cynnwys y sgiliau gwella rydym ni’n eu defnyddio heddiw yng Ngwelliant Cymru.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi dynodi 2020 yn Flwyddyn Ryngwladol Nyrsys a Bydwragedd. Dewiswyd y flwyddyn hon yn arbennig i goffáu 200fed pen-blwydd Florence Nightingale. Mae’n cydnabod cyfraniad nyrsys a bydwragedd at gyflawni ei nod o wella iechyd o amgylch y byd.
Er bod Florence Nightingale yn enwog am ei hymroddiad i nyrsio, roedd yn llawer mwy na’r “wraig â’r lamp”. Roedd ganddi feddwl dadansoddol craff, ac roedd hi’n arweinydd da, yn arloeswr ac yn ddyfeisiwr llwyddiannus. Roedd Florence yn frwd am ddata, ac yn cyfeirio ato’n aml yn ei gwaith ysgrifenedig. Mae ei gallu i ddefnyddio data i amlygu meysydd i’w gwella a gweithredu newid, gan achub bywydau, wedi ei neilltuo fel un o fenywod mwyaf blaengar a dylanwadol y 19eg ganrif.
Cyflawnodd Florence un o’i gwelliannau cynharaf ar ôl iddi gael ei lleoli yn un o ysbytai’r fyddin Brydeinig yn ystod Rhyfel y Crimea. Roedd yr amodau’n ofnadwy, ac roedd cyfradd marwolaethau 40% yn yr ysbyty. Ymchwiliodd Nightingale i ddefnyddio dull nad yw’n annhebyg i’r dadansoddiad o wraidd y broblem a ddefnyddir heddiw – a gwelodd mai’r hyn oedd yn achosi’r gyfradd marwolaethau uchel oedd hylendid gwael, amodau cyfyng a gofal meddygol gwael. Gan ddefnyddio data, canfu fod milwyr 10 gwaith yn fwy tebygol o farw o glefyd heintus o ganlyniad i hylendid gwael, nag mewn brwydr. Unwaith ei bod hi’n deall y broblem, datblygodd ei nod o leihau marwolaethau y gellid eu hosgoi. Roedd ganddi theori y byddai canlyniadau’n gwella trwy gymhwyso egwyddorion glanweithdra a hylendid sylfaenol. Treuliodd Florence lawer o’i bywyd yn ymgyrchu dros y newidiadau hyn, a thrwy fesur y gyfradd marwolaethau’n barhaus cyn, yn ystod ac ar ôl cyflwyno’r arferion hylendid newydd hyn, canfu, dros amser, eu bod wedi llwyddo i leihau marwolaethau yn y fyddin yn sylweddol yn ystod adeg o heddwch. Rhannodd Florence y canfyddiadau hyn, a weithredwyd yn eang ac a gafodd effaith arwyddocaol ar iechyd yn fyd-eang. Dyma enghraifft gynnar wych o welliant gan ddefnyddio data, datblygu theori wedi’i seilio ar y dystiolaeth sydd ar gael, profi syniad ar gyfer newid a mesur yr effaith.
Er ei bod hi’n fwyaf adnabyddus am fod yn arweinydd nyrsio, roedd
Florence hefyd wedi ymroi i ddatblygu’r proffesiwn bydwreigiaeth. Ym 1861, sefydlwyd ysgol fydwreigiaeth yng
Ngholeg y Brenin, Llundain, dan ei chyfarwyddyd. Ei gweledigaeth ar gyfer bydwragedd oedd creu
gweithwyr proffesiynol tra medrus a oedd yn ymarfer gwyddor a chrefft
bydwreigiaeth – egwyddorion craidd sy’n sail i hyfforddiant bydwreigiaeth heddiw
o hyd. Yn ogystal, astudiodd achosion
marwolaethau ymysg mamau yn fanwl, a chafodd ei siomi i ganfod nad oedd unrhyw
gofnodion yn bodoli na data’n cael ei gasglu ynglŷn â’r rhesymau dros
farwolaeth ymysg mamau. Canfu’r data
dilynol a gasglwyd ganddi mai sepsis ôl-esgorol oedd prif achos marwolaethau
ymysg mamau, ac amlygodd fod genedigaethau mewn ysbytai yn ffactor risg
ychwanegol. Ar sail y data hwn,
cynigiodd Nightingale argymhellion ynglŷn â hylendid, rhyddhau’n gynnar a
nyrsio ataliol mewn unedau mamolaeth.
Arweiniodd hyn at welliannau mawr, a welwyd trwy fesur yn barhaus.
Yn y Flwyddyn Ryngwladol Nyrsys a Bydwragedd, mae gennym gyfle euraid i ddilyn ôl troed aruthrol Florence Nightingale a bod yn gyfryngau newid. Mae methodoleg wella yn fodel hen sefydledig ar gyfer rhoi syniadau ar waith. Mae deall problem, defnyddio data, datblygu syniad, profi newid a mesur yr effaith oll o fewn ein gallu.
Gyda gyrfa gyfunol o fwy na 40 mlynedd, rydym yn gwybod pa mor awyddus yw nyrsys a bydwragedd i ddarparu’r gofal gorau posibl. Mae meddu ar yr amser a’r sgiliau i drosi tystiolaeth yn ymarfer yn llwyddiannus yn gallu bod yn heriol iawn. Mae methodoleg wella yn cynnig yr offer i allu gweithredu newid mewn ffordd syml, strwythuredig a mesuradwy.
Dysgwch fwy am sgiliau gwella yma.