Pam casglu a rhannu Adegau Arbennig a storïau’n ymwneud â gofal dementia, gan Nigel Hullah
Dull adrodd storïau ar gyfer dysgu a datblygu yw ‘Adegau Arbennig mewn gwasanaethau gofal dementia’. Mae Nigel Hullah wedi bod yn gweithio gyda Gwelliant Cymru er mwyn helpu i lunio’r prosiect gyda’i brofiadau ei hun ers cael diagnosis o ddementia. Yma mae’n dweud wrthym beth y mae’r prosiect wedi ei olygu iddo ef.
Drwy gydol 2018 a 2019 hwylusodd Gwelliant Cymru gyfres o weithdai a digwyddiadau gyda rhanddeiliaid i ganfod beth sy’n bwysig i bobl. Daeth pobl sy’n byw gyda dementia, teuluoedd, gofalwyr, ymarferwyr a rheolwyr ynghyd i rannu a sgwrsio am eu profiadau o wasanaethau mewn man diogel heb unrhyw feirniadaeth.
Canfuwyd yn gynnar nad oedd, yn y rhan fwyaf o achosion, storïau a oedd yn dangos gofal caredig, tosturiol, twymgalon a chyfranogiad yn aml yn cael eu cofnodi neu eu cynnwys mewn cysylltiadau gofal ffurfiol – rwy’n credu bod hyn yn drueni mawr ac yn gyfle a gollwyd.
Fel cyfranogwr roeddwn i’n teimlo fod y broses gyfan yn gadarnhaol a chefnogol. Wrth gwrs, roedd storïau oedd â chanlyniadau trasig, ond teimlais wedi fy ngrymuso i adrodd fy stori a myfyrio ar sut y gwnaeth tosturi a dealltwriaeth fy helpu ar fy nhaith, ac mae’n dal i’m helpu.
Cafodd llawer o’r hyn a ddatblygodd yn y gweithdai hyn eu cynnwys yn y Safonau Dementia. Mae tosturi, caredigrwydd, hygyrchedd a phartneriaethau yn themâu sy’n dod i’r amlwg dro ar ôl tro yn y Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan.
Mae storïau ac adrodd storïau yn diwallu angen dwfn i ddeall ein hunain, ein taith a’n gilydd fel bodau dynol. Mae’r storïau hyn yn siarad o’r galon ac wrth y galon, gan newid canfyddiadau yn ogystal â meddyliau a helpu i ail-ganolbwyntio ymdrechion er mwyn cael yr effaith gorau posibl.
Mae rhannu’r storïau hyn a’u negeseuon yn golygu ei bod yn bosibl i adeiladu ar y gallu i rannu profiadau er mwyn helpu i wella gwasanaethau a chreu teimlad o berchnogaeth gan yr holl gyfranogwyr.
Credaf fod pwysleisio anabledd dros gyfle yn arwain at ganlyniadau a all feithrin dirywiad yn y gallu naratif ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan ddementia.
Mae cydnabyddiaeth gyffredinol o fanteision cynnwys rhanddeiliaid neu ddinasyddion mewn polisi cyhoeddus ar lefel unigol ac ar y cyd, ac mae’r mentrau hyn yn chwarae rôl bwysig mewn lleihau’r teimlad o anabledd dros gyfle. Dyma gyfle i gael golwg ar yr hyn sy’n bwysig i’r rheini yr effeithir arnom gan ddementia drwy’r mynegiant a’r dystiolaeth a geir yn y llyfryn.
Yn ystod y gweithdai, bu’n bleser i mi weld pobl sydd wedi’u diagnosio a’u cefnogwyr yn goresgyn amheuaeth, diffyg profiad a hyder i adrodd eu storïau. Maent wedi newid calonnau a meddyliau gyda chynnwys diamheuol, neu gymhelliant dilys, fel y dengys y dystiolaeth yn y llyfryn.
Ni all unrhyw un sy’n darllen y storïau beidio â chael eu heffeithio gan burdeb a dewrder y cyfranwyr yr effeithir arnynt gan ddementia gan gynnwys y bobl sy’n darparu gofal iddynt. Roedd y bobl a rannodd yr adegau hyn yn poeni mwy am eu diben yn hytrach na pha mor gyfforddus oedden nhw.
Yn y ddogfen hon cawn enghreifftiau rhyfeddol o ddewrder. Pobl yn siarad am y tro cyntaf, yn llawn pryder a hunan-amheuaeth, ond yn gwneud hynny beth bynnag. Maent yn gwrthod cael eu diffinio gan eu diagnosis, mynnu man lle gwneir penderfyniadau, rhannu elfennau anoddaf eu bywyd a galluogi gwell dealltwriaeth o effaith diagnosis.
Gall y storïau yn y llyfryn helpu eraill i ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer dysgu a llunio gofal. Rwy’n gobeithio y bydd staff gofal, ymarferwyr, timau a sefydliadau yn cymryd y llyfryn hwn ac yn mynd ati i newid gofal dementia er gwell.
Felly, dylem ganmol pawb y mae eu llais wedi’i glywed a’r rheini a fydd yn cael eu clywed yn y dyfodol, a phawb sy’n brwydro’n ddyddiol gyda’r newidiadau a all ddod yn sgil diagnosis. Gadewch i ni ddathlu gan fod pawb yn fwy na dewr yn eu ffordd ei hun, ein hanwyliaid, ffrindiau, eiriolwyr a chymdeithion.
Ysbrydolwyd prosiect Adegau Arbennig ac yna’r llyfryn gan Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) a ddatblygwyd gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru (Andrews et al 2015). Gellir gweld y llyfryn yma