Ein camau nesaf fel Gwelliant Cymru gan yr Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG/Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru

Trwy gydol y pandemig, mae’r tîm yn Gwelliant Cymru wedi’i adleoli i gefnogi’r ymateb yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi cefnogi canolfannau galwadau, celloedd diogelu iechyd, dadansoddeg, gweithredu canolfannau samplu poblogaeth, unedau profi symudol a gwelliannau mewn amseroedd cyflenwi labordai. Rwy’n siŵr fy mod wedi hepgor rhywfaint, ond mae’n tynnu sylw at faint mae’r tîm wedi gallu cefnogi’r gwasanaeth. Rwyf am ddiolch i bawb yn y tîm am yr ymrwymiad y maen nhw wedi’i ddangos yn ystod y pandemig.

Ar 31 Mai 2021, bydd y tîm yn dechrau dychwelyd i Gwelliant Cymru a bydd yn cychwyn ein proses adfer ac yn dechrau cefnogi’r system iechyd a gofal ehangach yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod y dirwedd bellach yn edrych yn wahanol iawn i raddau helaeth o gymharu â 18 mis yn ôl pan oeddem ond yn dechrau clywed am firws newydd yn y Dwyrain Pell. I’r perwyl hwnnw, rydym yn gwybod y bydd angen i ni gefnogi ac ymgysylltu â’r system mewn gwahanol ffyrdd yr ydym yn eu datblygu a’u rhannu gyda chydweithwyr ar hyn o bryd.

Er y gall y system edrych yn wahanol a bydd angen i’n dull ni addasu yn unol â hynny, mae’n dal i fod nifer o heriau ar draws pob system, nid yn unig yng Nghymru. Amlinellodd Cymru Iachach werthoedd craidd GIG Cymru. Un o’r gwerthoedd hynny yw rhoi ansawdd a diogelwch cleifion uwchlaw popeth arall. Nid wyf yn credu bod hynny wedi newid; os rhywbeth, wrth inni symud i gyfnod adfer y pandemig, efallai ei bod yn bwysicach nag erioed.

Daeth Gwelliant Cymru i fodolaeth dros ddegawd yn ôl fel 1000 o Fywydau, yr ymgyrch dros ddiogelwch cleifion. Yna datblygodd i fod yn dîm a oedd yn angerddol am wella diogelwch. Nawr, ym mis Mai 2021, rwyf am ategu ein hymrwymiad i gefnogi diogelwch a lleihau niwed y gellir ei osgoi yn y system. Mae angen inni ganolbwyntio o hyd ar faterion heriol fel dirywiad acíwt, atal a rheoli heintiau, cwympiadau, briwiau pwyso, ynghyd â llawer o rai eraill. Fodd bynnag, mae angen inni edrych ar ddiogelwch a lleihau niwed ar draws y continwwm gofal yn hytrach na ffocws hanesyddol ar ofal eilaidd, o bosib. Yn ogystal, mae angen inni ystyried sut mae amseroedd aros a llif cleifion yn effeithio ar niwed.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf byddwn yn canolbwyntio ar weithio gyda sefydliadau i ysgogi gofal mwy diogel sy’n cefnogi ac yn ymgysylltu â gwasanaethau ar draws llwybrau cleifion.  Rydym yn ymrwymo i rannu arferion arloesol ac i ymgorffori gwella ansawdd ym mhopeth a wnawn, gyda’n gilydd.  Rwy’n siŵr fy mod yn siarad dros bawb yn Gwelliant Cymru pan ddywedaf ei bod yn braf bod yn ôl.  Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i ddilyn ein cynnydd.