Pwysigrwydd lles ac ymgysylltiad staff ar gyfer canlyniadau a diogelwch cleifion gan Martine Price, Arweinydd Nyrsio Clinigol

Pe gallech chi wneud un peth i wella ansawdd profiad y claf neu’r staff yn y gwaith – beth fyddai hynny?

Mae ein staff yn ganolog wrth wella ansawdd a darparu gofal diogel. Mae eu profiadau nhw o ddiwylliant y sefydliad a sut maen nhw’n teimlo am fod yn y gweithle yn effeithio’n uniongyrchol ar eu gallu i ofalu am gleifion, eu tîm, eu hunain a’u teuluoedd.

Yn dilyn yr hyn y mae ein staff wedi’i brofi yn ystod y pandemig, mae ein gallu i wrando arnynt yn bwysicach nag erioed o’r blaen.

Rhannodd ein gweminar “Gwrando ar anghenion cleifion a staff” ar 27 Gorffennaf waith Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gofal Iechyd Northumbria a sut mae Annie Laverty, Prif Swyddog Profiad, yn arwain rhaglen profiad staff amser real arloesol. Roedd yn galonogol gwrando ar Annie yn sôn am ddull Northumbria sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn enwedig ar y gwersi a ddysgwyd yng nghyd-destun cefnogi llesiant ac ymgysylltiad staff yn ystod COVID-19 ac fe fydd yn rhannu sut mae hynny’n dylanwadu ar adfer gwasanaethau a chanlyniadau diogelwch a phrofiadau cleifion.

Adborth amser real, wedi’i gasglu ar raddfa, gan ddefnyddio data ar gyfer gwella a chanlyniadau trawiadol ar sgoriau ymgysylltu staff. Siawns nad yw gwaith o’r fath yn fusnes craidd i unrhyw sefydliad?

Rwyf wedi arwain gwaith ar brofiadau cleifion dros nifer o flynyddoedd ac rydym yn gwybod yn aml mai’r pethau bach sy’n wirioneddol bwysig ac sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Wrth wrando ar Annie, cefais fy nharo gan y ffordd yr ymatebir i adborth mewn amser real a’r ystod o ymyriadau a gymerwyd. Mae llawer ohonyn nhw’n syml iawn ond effeithiol. Mae’n dda hefyd bod yr hyn y mae staff wedi’i ddweud yn cael ei fwydo’n ôl yn gyson, felly mae’r ddolen wedi’i chysylltu.  

Cymerwch ychydig o eiliadau i wrando ar y recordiad. Fel mae Annie yn ei ddweud, mae profiadau staff yn wirioneddol bwysig ac mae eu canlyniadau’n drawiadol. Yn 2019, daethant yn gydradd gyntaf yn genedlaethol fel y lle gorau i weithio yn y GIG.  

I Northumbria, mae hon wedi bod yn daith dros nifer o flynyddoedd ac mae gennym weminar ddilynol wedi’i chynllunio ar gyfer yr hydref fydd yn rhannu’r siwrnai honno gyda ffocws ar brofiadau cleifion. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y dyddiad.