Q Lab Cymru – Darparu arbenigedd a dulliau creadigol, cydweithredol ar gyfer gwelliant, gan Des Brown, Arweinydd Rhaglen Q Lab Cymru

Wrth rannu barn am broblem gydag eraill, efallai dyma’r ffordd rydych chi wedi gallu canfod mai dyma’r ffordd eich bod wedi gallu wynebu’r ornest o geisio gwella a chael datblygiadau arloesol a mewnwelediadau i ddigwydd.

Rhannu ein heriau, rhannu ein meddwl, rhannu ein dysgu, rhannu ein rhwystredigaethau.   Rhannu’r hyn yr ydym yn ei wneud pan fyddwn yn gwella rhywbeth. Mae’r rhain i gyd yn ‘fynedfa’ i’r amseroedd dadlennol hynny.

Dyluniwyd Q Lab Cymru, ymysg nodau eraill, i greu gofodau ar gyfer rhannu a chysylltu pobl ar draws sefydliadau a sectorau yng Nghymru.   Yn darparu arbenigedd mewn meddwl dylunio, a dulliau creadigol, cydweithredol ar gyfer newid, i’r rhai sy’n mynd i’r afael â rhai o’r problemau cymhleth hyn.

Mae Q Lab Cymru yn fenter i wella iechyd a gofal i bobl Cymru. Mae’n bartneriaeth rhwng Gwelliant Cymru, gwasanaeth gwelliant Cymru gyfan GIG Cymru, a Q, cymuned gysylltiedig o wellhawyr ledled y DU ac Iwerddon. Mae Q Lab Cymru yn derbyn cyllid gan y Sefydliad Iechyd, elusen annibynnol sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU.

Mae tîm Q Lab Cymru wedi dechrau creu gofodau ar gyfer rhannu, cysylltu, a dysgu cydweithredol trwy gyfres o weithdai rhithwir cyfredol – ‘Archwilio’r sgiliau gwella sydd eu hangen wrth adfer’ sy’n ffocysu ar y cysyniad o sgiliau ac agweddau ar gyfer newid cydweithredol. 

Rhan sylfaenol o ddull gweithredu Q Lab Cymru yw creu gofodau ar gyfer lleisiau, safbwyntiau a phrofiadau’r rhai sydd â phrofiadau byw i lywio sut rydym yn gwella ar y cyd.  Dyluniwyd y dull hwn ym mhob agwedd ar y gyfres o weithdai rhithwir. 

Yn seiliedig ar y mewnwelediadau hyn, mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gweithdai wedi cael cyfle i ystyried yr hyn y gallai hyn ei olygu i’w harfer gwella eu hunain e.e. trwy ddefnyddio gweithgareddau ac offer ymarfer myfyriol.

Mae’n werth nodi bod y gynulleidfa a fwriadwyd ar gyfer y gyfres o weithdai rhithwir yn wellhawyr yng Nghymru ac eraill sydd â diddordeb mewn gwella yng nghyd-destun Cymru. 

P’un a oes gennych welliant yn nheitl eich swydd ai peidio, hyd yn oed os nad ydych o reidrwydd yn gweld eich hun fel ‘gwellhäwr’, os ydych yn ymwneud â cheisio darparu gwasanaethau gwell yna mae’r gyfres hon o weithdai rhithwir ar eich cyfer chi.  

Mae rhagor o wybodaeth am y gyfres chwe rhan a sut y gallwch chi gymryd rhan yn y gofod cydweithredol a myfyriol hwn i’w gweld yma

Gan edrych y tu hwnt i’r gyfres o weithdai rhithwir, mae tîm Q Lab Cymru yn datblygu rhai cyfleoedd ehangach, traws-sector i gefnogi’r system iechyd a gofal yng Nghymru.  Bydd y tîm yn rhannu rhagor o fanylion am y rhain maes o law.

Yn y cyfamser, os hoffech chi gysylltu â ni gyda syniadau ar sut y gallwn eich cefnogi chi, mae ein manylion i’w gweld yma.