Fy mhrofiad o seicosis a gwellhad

Mae gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) yn helpu pobl ifanc sydd â chyfnod cyntaf o seicosis gyda’u gwellhad a’u helpu i gael ansawdd bywyd da.

Mae defnyddiwr gwasanaeth wedi ysgrifennu blog yn amlinellu ei brofiad o seicosis, ei brofiad cadarnhaol o gael mynediad at ei wasanaeth EIP lleol fel rhan o’i daith wella, a sut mae bellach yn rhannu ei brofiad i gefnogi datblygiad y gwasanaeth.


I ddechrau, es i i’r adran damweiniau ac achosion brys gyda chymorth fy rhieni gan nad oeddwn wedi cysgu na bwyta ers dau ddiwrnod. Roedd gen i deimladau yn fy mhen, paranoia ac amheuon ynghylch ymddygiad pobl eraill.

Yn dilyn asesiad, cefais fy nerbyn yn anffurfiol i’r uned cleifion mewnol iechyd meddwl lleol. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd ac yn ddryslyd bod i ffwrdd o’r teulu ac yn teimlo’n ansicr o ran yr hyn a oedd yn digwydd. Cefais drafferth rhannu ystafell gydag unigolyn arall a gallaf gofio gorwedd yn y gwely gyda fy nghalon yn dyrnu ac roeddwn yn teimlo’n orbryderus.

Ar ôl tri mis, cefais fy rhyddhau o’r ysbyty a dechreuais weithio gyda’r tîm Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) lleol, ac fe gwrddais â fy ngweithiwr cymorth a nyrs iechyd meddwl cymunedol yn wythnosol. Dros amser, dechreuais ymddiried yn y tîm ac yn raddol dechreuais deimlo’n ‘ddiogel’ ac yn ‘gyfforddus’ yn siarad am fy meddyliau a’m teimladau.

Dros y tair blynedd nesaf, cwrddais yn rheolaidd â’m tîm gofal, gan ymestyn yr amser rhwng sesiynau wrth i’m gwellhad barhau. Gwnaethom osod nodau bach i weithio tuag atynt gan gynnwys treulio mwy a mwy o amser allan o’r tŷ, herio meddyliau ymwthiol a datblygu hyder. Cyn mynd yn sâl, roeddwn yn bêl-droediwr medrus a chwaraeais y gamp i lefel uchel. Roedd hyn yn bwysig i mi gan ei fod yn rhan o fy hunaniaeth fel unigolyn ac yn ddiddordeb rwy’n ei rannu gyda’r teulu. Fe gydnabuwyd hyn gan fy nhîm gofal ac fe gafodd ei integreiddio i mewn i’r weithdrefn pennu nodau a chynllunio gofal.

Dros amser tyfodd fy hyder a hunan-barch. Wrth edrych yn ôl ar yr ychydig flynyddoedd hynny, roeddwn i dan lawer o bwysau a straen cyn i mi fynd yn sâl, neilltuais ond ychydig o amser i mi fy hun i ffwrdd o’r gwaith, a thros amser fe ddes i’n ynysig yn gymdeithasol, gan ymbellhau o’r bobl a’r gweithgareddau roeddwn i’n eu mwynhau. Rwy’n meddwl bod y diffyg cydbwysedd yn fy mywyd yn gysylltiedig â sut y dechreuodd fy symptomau cynnar ddatblygu, gan gynnwys teimladau cynyddol o orbryder, paranoia a hwyliau’n gwaethygu.

Roedd cymryd camau bach a’r cysondeb a gynigiwyd gan y tîm, a wnaeth i mi deimlo’n ddiogel a theimlo fy mod yn gallu siarad am fy mhrofiadau ac archwilio ffyrdd iach o ymdopi, wedi helpu fy ngwellhad. Roeddwn i’n teimlo bod mynd allan o’r tŷ gyda’m gweithiwr cymorth a mynychu grwpiau fel sesiynau gweithgarwch coetir gyda’r tîm EIP yn rhoi lle i mi gwrdd ag eraill â phrofiadau tebyg, i ail-addasu, ac ymarfer fy sgiliau hunanreoli. Rydw i bellach yn hyderus y gallaf sylwi ar yr arwyddion a sbardunau cynnar, ac ymateb iddynt, a deall yr hyn sy’n ddefnyddiol a’r hyn sydd ddim yn ddefnyddiol er mwyn cynnal fy llesiant.

Rwy’n ddiolchgar i’r gwasanaeth EIP ac rwy’n teimlo bod cydweithio â’r tîm wedi fy helpu i wella a gallu dod o hyd i fy llais. Rydw i bellach yn gweithio’n llawnamser mewn rôl rheoli yn y sector manwerthu ac rydw i’n hyfforddi pêl-droed yn lleol unwaith eto.

Er fy mod wedi cael fy rhyddhau o ofal gwasanaethau EIP, rwy’n cefnogi’r tîm ac yn rhannu persbectif fy mhrofiad bywyd i helpu’r gwasanaeth i ddatblygu. Er enghraifft, rwy’n cydnabod y bu’n gyfnod pryderus i fy rhieni pan oeddwn yn diddodef seicosis ac rwy’n cynghori bod yn rhaid i dimau EIP ymgysylltu â theuluoedd cyn gynted â phosibl, fel eu bod hwythau hefyd yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a’u bod yn cael cymorth.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau EIP yng Nghymru, cysylltwch â thîm EIP Gwelliant Cymru drwy e-bostio michaela.morris@wales.nhs.uk a katie.cole@wales.nhs.uk.