Ymgysylltu â chleifion er diogelwch cleifion – nid yr hyn yr ydych chi’n ei wneud, ond sut rydych chi’n ei wneud.
Gan Martine Price, Nyrs Arweiniol, Gwelliant Cymru
“Nid yw’r claf hwn yn cydymffurfio.” Beth amser yn ôl, roeddwn yn rhan o grŵp cydweithredol yn gweithio i wella briwiau pwyso ar draws llawer o’r wardiau yn yr ysbyty yr oeddwn yn gweithio ynddo. Roedd yr ymadrodd ‘ddim yn cydymffurfio’ yn codi o hyd. Roedd Jane yn wraig a oedd wedi bod yn yr ysbyty am wythnosau lawer ac roedd ei briw pwyso sacrol yn gwaethygu. Nid oedd hi’n dangos unrhyw ddiddordeb mewn newid ystum er mwyn lleddfu’r pwysau. Treuliais beth amser gyda Jane i geisio deall beth oedd yn bwysig iddi. O hyn dysgais nad oedd y briw pwyso yn bwysig iddi, ni allai ei deimlo, nid oedd wedi ei weld, felly lleddfu ei diflastod a gallu eistedd i fyny yn ystod y dydd a chysgu ar ei chefn yn y nos oedd ei ffocws. Des i adnabod Jane a deall mai’r hyn oedd yn wirioneddol bwysig iddi oedd cael mynd adref at ei chi. Gofynnodd am gael gweld ei briw pwyso gan ddefnyddio drych. Roedd hwn yn drobwynt a daeth Jane yn bartner yn ei gofal ei hun. Yn araf bach dechreuodd ei briw pwyso wella wrth iddi osod ei nodau dyddiol ac wythnosol ei hun tuag at fynd adref at ei chi.
Mae cleifion, teuluoedd a gofalwyr yn ganolog i ofal diogel ac os ydynt yn ymwneud yn ystyrlon â’u gofal mae’r manteision diogelwch yn sylweddol. Mae gan gleifion, teuluoedd a phartneriaid gofal bersbectif unigryw a phwysig ar ddarparu gofal a nhw yw’r unig bobl sy’n bresennol drwy gydol y continwwm gofal llawn. Mae eu hymgysylltiad a’u partneriaeth ystyrlon yn hanfodol ar gyfer gwella diogelwch.
Am yr un rheswm, gall ymgysylltu â chleifion a theuluoedd sydd wedi profi niwed ddarparu mewnwelediad a dysgu am fethiannau system. Mae’n hanfodol felly sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed.
Felly, dylid anelu at ymgysylltu a chynnwys yn ystyrlon, er mwyn galluogi cleifion, teuluoedd a gofalwyr i fod yn bartneriaid yn eu diogelwch eu hunain yn ogystal ag yn niogelwch sefydliad. Mae’r nod hwn yn sylfaenol i’r Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel, sy’n dod â thimau o bob un o’r byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru at ei gilydd i ddysgu a rhannu gyda’i gilydd. Mae’r grŵp cydweithredol wedi’i seilio ar Fframwaith y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol gydag ymgysylltiad cleifion a theuluoedd wrth wraidd y fframwaith. Mewn sefydliadau diogel a dibynadwy, mae cleifion, teuluoedd a gofalwyr yn gymaint o aelodau o’r tîm gofal â chlinigwyr a staff gofal iechyd eraill.
Felly sut ydyn ni’n ymgysylltu’n ystyrlon? Yn syml iawn – Gofyn, Gwrando a Chynnwys.
- Gofyn: Creu amodau ar gyfer cyfranogiad ystyrlon mewn gofal, megis ‘Beth sy’n Bwysig i Chi?’
- Gwrando: Ceisio adborth i ddeall a gwella.
- Cynnwys: Cynnwys cleifion yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau mwy diogel a chydgynllunio.
Mae gennym lawer o enghreifftiau o ymgysylltu ystyrlon â chleifion, teuluoedd a gofalwyr yng ngwaith ein timau yn y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Call 4 Concern (C4C) yn galluogi cleifion ac aelodau o’r teulu i gychwyn atgyfeiriad uniongyrchol i’r tîm ymyrraeth acíwt os oes ganddynt bryderon am eu cyflwr neu gyflwr aelod o’r teulu. Dywed y tîm fod cael cleifion yn cyfrannu at benderfyniadau am driniaeth gofal iechyd yn gwella diogelwch cleifion, yn lleihau niwed ac yn ail-gydbwyso’r berthynas rhwng unigolion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Enghraifft arall yw pŵer stori, rhannodd Barbara ei phrofiadau o ofal iechyd fel rhan o’n Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel, sy’n arwain rhaglen diogelwch cleifion. Daeth i un o’n sesiynau dysgu i siarad am ei phrofiadau, gan ein herio i ystyried sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth ar bob lefel o’n sefydliadau i rannu a dysgu gyda’n gilydd.
Felly, rwyf am orffen gyda chwestiwn arall: Ble mae’r cyfle mwyaf gennych i gynnwys cleifion a’u teuluoedd yn eich gwaith gwella?
Sylwch fod y term claf yn cael ei ddefnyddio i adlewyrchu pobl yn yr ystyr ehangaf yn ein cymuned sydd angen gwasanaethau gofal iechyd ym mhob lleoliad gofal.