Rôl y Gydweithredfa Gofal Diogel ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Gan Hazel Powell, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Hazel Powell

Er bod y flwyddyn newydd yn gyfle da i lawer i fyfyrio ar y 12 mis diwethaf a chynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae ffocws dwys y GIG ar yr adeg hon o’r flwyddyn i raddau helaeth ar yr heriau gweithredol sylweddol a gyflwynir gan y gaeaf.

Fodd bynnag, ar ddiwedd mis Tachwedd roedd ein timau BIP Bae Abertawe sy’n ymwneud â’r Gydweithredfa Gofal Diogel yn gallu dod at ei gilydd i rhannu a myfyrio ar y gwaith gwych y maent wedi bod yn ei wneud i wella ansawdd a diogelwch.

Wrth i’r timau siarad am eu prosiectau gwella, roedd y canlyniadau a’r profiadau cadarnhaol y maent yn eu cyflawni ar gyfer staff a chleifion yn amlwg i’w gweld. Rydym i gyd mor brysur yn ein rolau o ddydd i ddydd fel y gall fod yn heriol i weld cynnydd cadarnhaol rydym yn ei wneud a llwyddiannau rydym wedi’u cyflawni dros amser. Felly roedd y cyfle i bwyso a mesur yr hyn yr ydym yn ei wneud wedi creu bwrlwm a balchder gwirioneddol yr ystafell.

Yr hyn a’m tarodd yn fawr ar y diwrnod hwnnw hefyd oedd sut mae bod yn rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel wedi helpu i gyflymu ein hymagwedd at waith llwybr cyfan. Rydym yn dod yn fwy rhyng-gysylltiedig yn ein hymagwedd, yn gyflymach. Er enghraifft, mae hynny wedi ehangu y gwaith gwych y mae ein timau yn ei wneud o ran atal codymau y tu hwnt i’n safleoedd acíwt i ofal sylfaenol, a chyda’n cydweithwyr mewn cartrefi gofal.

Fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mae Abertawe, fy rôl yn y Gydweithredfa Gofal Diogel fu cynrychioli Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar lefel arweinyddiaeth, sydd wedi cynnwys cyfrannu at ffrwd waith arweinyddiaeth y gydweithredfa. Rydw i wedi bod mewn sefyllfa dda yn fy rôl i gefnogi ein timau i gyflawni eu prosiectau gwella a sicrhau bod effaith yr hyn yr ydym yn ei wneud fel rhan o’r gydweithredfa yn parhau i fod yn weladwy i’r tîm gweithredol, sy’n gefnogol o’r gwaith hwn.

Mae’r Gydweithredfa Gofal Diogel wedi bod yn amserol iawn i ni, gan ei fod yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau yr ydym wedi buddsoddi ynddynt fel rhan o’n Strategaeth Ansawdd yn BIP Bae Abertawe. Rydym wedi gallu plethu’r gydweithredfa i’r gwaith gwella yr ydym yn ei wneud ar draws meysydd blaenoriaeth fel rhan o’r strategaeth honno, sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran gwella’r hyn yr ydym yn ei wneud.

Wrth i ni edrych ymlaen mae’n bwysig ein bod yn ystyried sut i wreiddio’r gwaith hwn ymhellach i flaenoriaethau sefydliadol a chenedlaethol, megis y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Argyfwng a’r Ddyletswydd Ansawdd, fel ei fod yn dod yn fusnes i bawb ac yn cael ei ystyried yn rhan annatod o’r hyn mae’r sefydliad cyfan yn ceisio cyflawni.

Mae gofal iechyd yn amgylchedd heriol o ran ceisio sicrhau gwelliant, ac wrth gwrs bu heriau cymhleth gyda’r gwaith yr ydym yn ei wneud fel rhan o’r gydweithredfa – yn enwedig mewn perthynas â data a’r systemau gwahanol sy’n bodoli ar draws gwasanaethau a sefydliadau. Rhaid imi ganmol ein timau am y dycnwch y maent wedi’i ddangos wrth weithio yng nghyd-destun yr heriau parhaus hynny i gyflawni’r effaith a welsom yn y sesiwn ddysgu ddiweddar honno.

Rydym am fod yn sefydliad o ansawdd uchel ac mae angen i wella ansawdd fod yn rhan o hynny. Mae angen i ran o etifeddiaeth y Gydweithredfa Gofal Diogel ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fod sut byddwn yn parhau i wreiddio gwella ansawdd a meithrin gallu a galluedd i barhau i symud ymlaen ar y daith hon, gan fynd o nerth i nerth.

Dyna daith rwy’n gyffrous i’n gweld ni’n mynd arni yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.